Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sylfaenu

sylfaenu

Byddai agwedd dychmygus a chreadigol o'r fath yn gwahaniaethu'n fawr oddi wrth y sefyllfa bresennol sydd wedi ei sylfaenu ar feddylfryd negyddol dan ddylanwad y Comisiwn Archwilio, nad yw'n meddu ar arbenigedd addysgol na chydwybod gymdeithasol.

Yn bedwerydd, ceir pedair senedd daleithiol wedi eu sylfaenu ar bedair talaith hanesyddol Iwerddon gyda chyfrifoldeb tros ddosrannu arian, penderfynu ar gynlluniau datblygu taleithiol a goruchwylio gwaith heddlu'r Cynghorau Ardal.

Y rhaglen Saesneg yr wyf yn hoff ohoni yw "All Creatures Great and Small", y gyfres sydd wedi ei sylfaenu ar fywyd y mil-feddyg James Herriot.

Dywedai cofiannydd Henry Jessey, y gwr a ddaeth i lawr o Lundain i helpu Wroth a Chradoc sylfaenu'r eglwys, ei bod yn "dra enwog am ei swyddogion, ei haelodau, ei threfn, a'i doniau% ac, fel y cawn grybwyll, yr oedd ei haelodau'n ei chael yn hawdd i ymarfer eu doniau ar led.

Ar yr un pryd nid rhywbeth mympwyol yw barn o werth, ond rhywbeth wedi ei sylfaenu ar ddarllen dwys a chatholig: nid yn unig darllen gweithiau gwreiddiol ond darllen ac astudio datganiadau beirniaid llenyddol yr oesau ynghylch natur barddoniaeth.

Cerdd wedi'i sylfaenu ar wrthgyferbyniad yw hon eto, a'r gwir yw fod "ffeiraid llwyd' Peate yn gymaint Fodryb Sali ag oedd Brawd Llwyd Dafydd ap Gwilym a Williams Parry.