Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sylwais

sylwais

Sylwais ar Breiddyn a Lewis Olifer yn sefyll fymryn o'r neilltu i bawb arall; yr oedd Menna wedi cymryd gofal o Deilwen Puw.

Sylwais y tro diwethaf y bu+m yn Jamaica fod sioc aflerwch a budreddi a sbwriel y Trydydd Byd yn gwisgo i ffwrdd yn gyflym dro ben.

Sylwais fod cystadleuaeth ymhlith labeli yn anhygoel o gignoeth yn ôl safonau Prydeinig.

Efallai nad oedd â wnelo hyn ddim â'r peth, ond sylwais fod gan ŵr y tŷ lle yr oeddwn yn aros reiffl wrth law.

Synhwyrais fod rhyw chwyldro seicolegol annisgwyl iawn wedi digwydd yn fy hanes pan sylwais, ar ol imi dreulio deuddydd ym Moscow, fod y llythyren 'M' fras, goch a ddynodai Metro yn ymrithio o flaen fy llygad nes iddi ymdebygu i'r M am Macdonalds.

Mae hi'n byw'n ddigon pell oddi acw?" "Mae hi acw'n aros hefo ni ers wsnos, was i." "Cwmpeini diddan i chi'r nosweithiau hirion yma," sylwais yn ddifeddwl.

Dim ond ar y bwrdd y sylwais ar fynyddoedd o lyfrau nodiadau mewn llawysgrifen wedi eu gosod yn drefnus.

Sylwais ar Breiddyn yn eistedd yn y rhes flaen, a'i fraich dde dros gefn y gadair nesaf ato, mewn ystum gwrandawr o'r tu allan, fel petai.

Ond, fel y sylwais neithiwr, nid yw trafnidiaeth India mor gwbl wallgof a thrafnidiaeth Jamaica, nac mor oeraidd-drahaus a thraffig Ewrop.

Wrth imi gyrraedd trydydd llawr siop y fyddin yng nghanol y ddinas sylwais fod tua deg ar hugain o briefcases digon cyffredin yr olwg yn cael eu gosod yn daclus ar un o'r cownteri.

Wrth deithio'n ôl, sylwais ar fwg hyd y llechweddau o amgylch, lle'r oedd ffermwyr yr ucheldir yn llosgi hen dyfiant o wellt a rhedyn crin a bonion grug ac eithin.

Sylwais ar fy nghyfaill Williams ei fod yntau hefyd mewn gwewyr ysbryd.

A myfi a sylwais y modd y byddai gyrrwr y trên hwnnw wrth esgyn yn defnyddio grym trydan oedd yn llifo mewn gwifren uwchben i gynorthwyo'r trên ar ei daith.

Boed a fo am hynny, yr oedd DM Jones bron ar derfyn ei gwrs yng Ngholeg Worcester pan sefydlwyd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, a pha ran bynnag a fu iddo yn ei sefydlu, ni bu iddo ond y nesaf peth i ddim dylanwad ar ei datblygiad; yn wir, hyd y sylwais, nid yw ei enw yn ymddangos fwy na rhyw ddwy waith yn y cofnodion ar ôl cofnodion y cyfarfod sefydlu.

Hyd y sylwais i, bydd y mwyafrif o bobl yn huawdl wrth drafod sylfeini ac yn llenwi'r bylchau llwyd â geiriau llanw.

Yn ystod ymweliad diweddar a Chanada sylwais fod hwn yn gwestiwn a oedd yn cael ei wyntyllu o ddifrif.

(Gyda llaw, os cofiaf yn iawn, dwy bunt dau swllt ac wyth geiniog ydoedd cyflog wythnosol dyn clirio'r eira oddi ar y ffordd y pryd hynny!) Sylwais y bore yma fod asgell-goch ymhlith yr adar oedd yn bwyta briwsion ar y lawnt.

Sylwais fod blwch postio yn ymyl y ciosg a ymddangosai yn wirioneddol hynafol er bod ER wedi ei doddi i'w gyfansoddiad.

Sylwais bod sach fawr rhwng y ddau frawd, ac wrth i ni deithio am Lahore, fedrwn i ddim llai na sylwi bod y sach hon yn cael parch mawr.

Sylwais fod rhai anghenfilod yn dechrau ymddangos yn barod.

Ceir enwau cyffelyb yng Nghymru wrth gwrs ond sylwais ar yr enwau tafarnau canlynol o bob rhan o Gymru sy'n cynnwys enwau adar, anifeiliaid ac un pysgodyn pur gyffredin: Tafarn Ditw, (LLan-y-cefn, Penfro); Tafarn Hwyaid, (Carreg-lef, Mon), Tafarn y Brithyll (Ystradmeurig, Ceredigion); Tafarn y Cornicyll (Llanwenog, Ceredigion); Tafarn y Gath

Ac wedi iddi fynd i'r hwyl, dyma hi'n deud peth fel hyn: "Os y bydd rhywun yn trio'ch treisio chi, dydy o ddim yn beth doeth i wrthwynebu gormod." Wrth gwrs, mae cyfla yn beth mawr, chwadal nhwtha, ac mi sylwais ar y diwadd, pan oedd pawb yn ei holi hi, na ddarfu neb feddwl gofyn a oedd hi wedi cael y profiad ei hun.

Sylwais nad oedd y rheini yn galw am wybodaeth o'r Gymraeg, ychwaith.

Hyd y sylwais i, ni chafwyd unrhyw drafferthion oherwydd darlledu'r rhaglen yn fyw.

Ond wedi symud i'm curadaeth gyntaf yn Eglwys y Waun mi sylwais i mor bell o'n i o bethau Cymraeg.

Yn nes ymlaen, wedi i mi a gweddill y criw fynd drwy'r rheolfa basport, sylwais fod Siwsan wedi cael ei throi yn ôl a'i hanfon i swyddfa arbennig.

Ers rhai blynyddoedd sylwais ar fy nghyfeillion, o basio'r deugain, yn rhuthro allan i loncian neu farchogaeth beic, a chael cryn ddifyrrwch o'u gweld yn eu trowsusau bach yn ceisio rhoi taw ar lais amser.

'Reildro pan ddychwelais ato'n bryderus, sylwais fod ei ddysgl blastig a oedd yn dal arfau'r feddyginiaeth yn gwingo ar gledr fy llaw.