Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sylwebaeth

sylwebaeth

Yn aml, cynhwysent newyddion y dydd, boed genedlaethol neu dramor, ynghyd a sylwebaeth ar faterion y dydd, megis caethwasiaeth, dirwest, ac yn y blaen.

Roedd o'n union fel petai o'n rhoi sylwebaeth ar ornest focsio.

Ond y canlyniad rhesymol yw mai lluniau symudol ynghyd â sain sy'n fwyaf effeithiol: gweld gwlad bell, ei phobl a'i blaenoriaethau wrth ddatblygu trwy gyfrwng darlun lliw symudol a sylwebaeth sain yw'r nesaf peth at fynd yno ein hunain.

Maen nhw'n dal i gredu y gellir defnyddio strwythur traddodiadol y stori, gwead o ddisgrifiad a sylwebaeth a deialog, strwythur sy'n perthyn i fyd gwahanol iawn, i ddarlunio diffyg strwythur a diffyg cyfeiriad y byd sydd ohoni.

Hwy fu'n gyfrifol am y glosau a'r esboniadau a'r sylwadau o bob math a ychwanegwyd ato nes cuddio geiriau gwreiddiol y Beibl o dan haen drwchus o sylwebaeth.

Fodd bynnag, yr oedd dau beth a amlygai eu hunain yn fwyaf arbennig - yn enwedig yn y portread o Annigoni - ceinder ac artistri y gwaith ffilmio a sylwedd a dyfnder deallusol y sylwebaeth.

Yn ddiweddarach prin fod angen sylwebaeth o gwbl wrth i'r ddau arweinydd a'u cyd-weithwyr gyfarfod i swpera.