Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sylweddolais

sylweddolais

Sylweddolais innau, er i bron ddeugain mlynedd fynd heibio, nad oedd digon o ddþr wedi cael ei dywallt ar y tân arbennig hwn, bod perygl o hyd fod rhywun yn credu fod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda chyllid yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli.

Yn ei swyddfa, rhoddodd y camera ar y bwrdd, a dyna pryd y sylweddolais beth roedd am ei wneud nesaf; wrth chwarae'r tâp yn y camera, gallai weld y lluniau oedd arno.

Ond yn awr sylweddolais y byddai mynd i bregethu heb het yn rhywbeth hollol anweddus yng ngolwg y saint.

Dim ond yr adeg yna y sylweddolais pa mor beryglus oedd Beirut.

Sylweddolais beth yn union oedd yn digwydd yn y wlad.

Ond tra'n dreifio i lawr stryd y Trallwng am chwarter wedi chwech, sylweddolais nad ffermwyr oedd yr unig rai i godi'n fore - 'roedd rhywun yn brwsio'r palmentydd, un arall mewn lori nwyddau a siopwr yn gwerthu papurau.

Dim awydd - lawer llai pan sylweddolais fod Mem wedi creu ambell ergyd ac yn dibynnu arnaf i'w saethu drosti.

Gwyliais yr hyn a wnaeth hi a dod oddiar y lifft yn union yr un fan a hi - ond syrthiodd ac yn rhy hwyr sylweddolais nad oedd hithau'n hyddysg yn y grefft yma - ac felly syrthiais innau.

Nid tan yr wythnos diwethaf y sylweddolais i pa mor wirioneddol ddrutach yw petrol yma o gymharu â gweddill Ewrop.

Wrth blygu lawr, sylweddolais nad papur sbwriel oedd ond esgid plentyn.

Wedi teithio am rhyw hanner awr go dda, dyma fo'n dweud: "You shouldn't drive for long without having a break," ac yn fuan y sylweddolais mai "break" oedd peint o Ginis.

Me Christian, too." Pan sylweddolais ei fod yn medru peth Saesneg achubais y cyfle i ddweud wrtho mor newynog oeddem, ac addawodd ddod â chyflenwad o flagur bambw imi ond imi drefnu i gwrdd ag ef y tu allan i'r caban.

Sylweddolais mai'r ffôn yn yr ystafell wely oedd yn canu fel fflamiau.

Ar yr achlysur hwn fe sylweddolais fod gennym arweinydd arbennig ac unigryw a hynod o alluog a dim ond mater o amser oedd nes y byddai yn brif weinidog.

Ond mynd yn offeiriad wnesi, ac yn fuan iawn yn fy ngweinidogaeth fe sylweddolais fod ymgodymu ag ysbrydion yn rhan o'r gwaith.

Sylweddolais chwerwder y golled a gawswn yn ei farwolaeth, a theimlais fy hun yn unig a di-gefn.

Sylweddolais ei bod hi wedi gwella trwy help meddygol a chymorth gweddi.

Mentrais syllu ar ei lygad chwith, ac fe sylweddolais fod ei fynegiant ar ei drai olaf, heb gyffro dicter ynddo na gwenwyn dial.

Sylweddolais nad oedd gennym ond un dewis.

Ond, fel yr oedd fy nychymyg yn tynnu llun Paradwys ar ganfas fy meddwl, sylweddolais bod y trÚn yn arafu, a'm cyddeithiwr ar ei ffordd tua'r drws, ac wedi gadael ei bapur newydd ar ôl i mi.

Os oeddwn wedi disgwyl rhywbeth hurt, fel miloedd o blant yn canu a dawnsio i gyfeiliant darlleniadau o'r Llyfr Gwyrdd sy'n cynnwys doethinebau Gadaffi, fe sylweddolais yn fuan mai ysgolion oedd y rhain i bregethu undod Arabaidd yn erbyn y gelyn Iddewig.