Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

symleiddio

symleiddio

Yn ei waith ceisiodd Harry Hughes Williams gyfleu ei ymateb i hyn, gan symleiddio a rhoi mynegiant i'w ganfyddiad mewn paent.

Yn ei waith diweddarach mae'n symleiddio ffurf i'w elfennau mwyaf sylfaenol, ac eto mae'r ymdeimlad o olygfa ar adeg arbennig - ar ddiwrnod gwlyb, gwyntog, niwlog, er enghraifft - yn arbennig o gryf.

Yn hytrach na cheisio ymgodymu â holl gymhlethdodau'r byd sydd ohoni o'r cychwyn cyntaf, y dull arferol o weithredu mewn Economeg yw symleiddio cymaint ag sy'n bosibl ar y cychwyn, ac yna symud ymlaen i ollwng y tybiaethau dechreuol fesul un gan sylwi ar y gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i'r casgliadau gwreiddiol.

Rhaid cofio, fodd bynnag, mai nod theori yw egluro yn hytrach ha disgrifio; ac, er mwyn egluro, y mae elfen o haniaethu (neu symleiddio) realiti yn hanfodol.

Mae astudiaeth o ystadegau cenedlaethol yn symleiddio'r dulliau o amaethu sy'n bodoli mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.

Cyffyrddir yn ogystal a strategaethau dysgu gwahanol megis "hunan addysgu cynhaliol," trefnu nodiadau a'u symleiddio ar gyfer plant a phroblemau iaith sydd yn benodol i un pwnc; agweddau cyffredinol a welwyd wrth arsylwi mewn ysgolion sydd yn fwy eang eu hapel ac yn berthnasol i unrhyw athro.

Roedd tuedd yn y ddau achos i ailddweud llawer yn y sefyllfa ddosbarth cyfan gan symleiddio cystrawen a thraddodi'n fwy uniongyrchol yr eildro er mwyn sicrhau dealltwriaeth.

Fersiwn o'r stori wedi ei symleiddio ar gyfer dysgwyr, gyda geirfa yn y cefn.

Dro ar ôl tro mae'n symleiddio manylion er mwyn pwysleisio'r hanfodion - y graig, y môr, y tir - gan hepgor manion amherthnasol er mwyn dal ysbryd yr olygfa fel y gwelai ef hi.