Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

symudai

symudai

Symudai'r niwl gydag ef i bobman, gan gadw'r ergydion draw, a chan gadw'r lleisiau y tu hwnt i'r sŵn.

Os y bechid rhagor na chwech wrtho, - petai hynny ond yn un yn fwy, - ni symudai yr un fer.

Symudai'r arian yn gyflym o law i law, a dyna'r unig grūp gweddol dawel yn y lle i gyd.

Wrth ymestyn ac anwesu'r gwlân a'i fwydo i mewn i'r dro%ell, symudai ei dwylo mor ystwyth a meistrolgar â dwylo perfformiwr yn canu'r piano.

Roedd ei groen yn llyfn a chlir a symudai fel dyn a chanddo gyhyrau iach iawn.

Roedd yn noson drymaidd, cuddiai cymylau'r machlud, ac ni symudai un ddeilen yn y gwerni.

Yn fuan roedden nhw'n ymuno â'r dorf a symudai'n araf tua'r neuadd.

Pan nad oedd El Presidente'n agor ei geg, fe symudai ei draed yn aflonydd neu edrychai ar ei wats.

Symudai'n rhwydd, mesur, pellter yn gywir, cilio o flaen neu gydag ergyd a chadw ei ddwrn chwith yn rhyfeddol o gyson yn wyneb ei wrthwynebydd.

Pan symudai'r naill, fe symudai'r llall; pan safai'r naill, fe safai'r llall; pan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd bod ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.

Symudai'r saith plentyn dros y sbwriel yn y ddomen fel fforwyr dros fryniau'r Himalayas.

Caeodd ei llygaid a gobeithio y symudai'r cnociwr ymlaen i ddeffro'r Saeson oedd newydd brynu'r bwthyn drws nesaf.

Troai hi drachefn, a symudai'r trên wrth fesur araf allan o'r stesion, a chleddid y porter a'i lamp yn ei thywyllwch.