Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

symudiad

symudiad

Roedd hyn yn gofyn am symudiad corfforol chwim, a chefais fy hun yn rhydd o'm trallod fel ag yr oedd y gadair nesa'n cyrraedd.

Erbyn heddiw gwelir fel y gellir uno'r ddau symudiad - y canoli ar lefel Ewrop, a'r datganoli ar lefel Cymru - i greu rhyw fath o synthesis ac undod: Cymru o fewn y Gymuned.

Caiff y symudiad yma mewn poblogaeth effaith amlwg ar economi'r ardal gan fod y mwyafrif o'r mewnfudwyr a grym economaidd sylweddol uwch na'r brodorion.

Mae hwn eto'n symudiad da am ei fod yn gwneud dau beth ar y tro - sef "datblygu% darn mawr ac amddiffyn ei Werinwr yr un pryd.

Mae sylweddoli mai dyma'r cefndir yn help i werthfawrogi pam y mae symudiad ychydig o bobl ddi-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg yn creu argyfwng.

Fel a'r Deufalfiaid eraill sy'n medru nofio, megis y gregyn bylchog, mae'r llabedau mawr hyn yn gweithredu i reoli symudiad y dwr allan o geudod y fantell pan fydd yr anifail yn nofio.

trwy anfon ergyd o gerrynt ar yr adeg cywir, gellid argraffu unrhyw lythyren ddewisiedig heb orfod atal symudiad cyson yr olwyn.

Mae hwn yn symudiad da am ei fod yn gwneud dau beth - sef "datblygu% darn mawr - a bygwth un o Werinwyr y gelyn yr un pryd.

Mae'r symudiad yma yn esiampl pellach o ymgais llywodraeth asgell-dde y Partido Popular yn Sbaen i gynyddu tensiwn yng Ngwlad y Basg.

Dylai'r Cynulliad gynorthwyo i sbarduno symudiad yn Ewrop am Ddeddf Iaith i Ewrop gyfan fydd yn sicrhau statws cyfartal i holl ieithoedd Ewrop.

Pan ganodd ef ei gynghor dedwydd - "Siaradwch y ddwy% - oni ragflaenodd y symudiad sydd ar droed i wneud plant Cymru yn Saeson heb iddynt beidio bod yn Gymry?

Eto mae'r symudiad yma'n gwneud dau beth - mae'n "datblygu% darn mawr i fan lle mae'n gallu bod yn llawer mwy o fygythiad nag oedd ar ei sgwâr ei hun yn ymyl y Brenin.

Gwyliai robotiaid bob symudiad.

Biti bod yr hen wraig mor fusgrell, oedd sylw trist gwþr y pentref, wrth ddychmygu symudiad bysedd Morfudd dros eu cyrff hwythau.

Roedd Bob yn gwylio pob symudiad a wnƒi'r cipar.

Mi 'roedd o wrth ei fodd yn eu dynwared, yn siarad a symud, a finna wrth fy modd yn gwrando ar bob sill, a sylwi ar bob symudiad.

Ac yn dilyn symudiad rhwng Sel a Tommy David, fe grewyd cais i JJ, a Phil yn ychwanegu'r ddau bwynt eto.

Y mae hwn yn symudiad da am ei fod yn agor llwybr clir i ddau o'r darnau mawr ddod allan i ganol y bwrdd - sef y Frenhines a'r Esgob.

Os symudwch ddarn mawr allan i sgwâr lle mae'n gallu cael ei fygwth gan Werinwr y gelyn - yna bydd yn gorfod mynd yn ôl eto - a dyna chi wedi gwastraffu un symudiad o leiaf.

Bu Burgess yn flaenllaw iawn yn y symudiad hwn.

Yn ogystal â rhai eiliadau o 4' 33" cafwyd Bek, Villa Lobos, Roy Harris, y Beach Boys - sy'n cynnwys naws tebyg i gôr Cymreig, yn ôl Cale - a symudiad allan o Dance Music gan Cale ei hun.

Ond nid oedd y symudiad yma i ffwrdd oddi wrth y sectorau traddodiadol yn cael ei adlewyrchu mewn ymlediad o'r sylfaen economaidd er mwyn darparu marchnad gyflogaeth fwy amrywiol.

"Dim un symudiad, y dihirod!" Clywodd Jean Marcel lais Henri yn gweiddi ar y milwyr.

Wnes i 'rioed chware yn y fath dywydd llethol, lle'r oedd y chwys yn tasgu dim ond wrth wneud y symudiad lleia, heb sôn am garlamu o gwmpas y lle ar ôl tipyn o bêl.

Dyna, felly, grynodeb o'n gwybodaeth am ffurf siliwm ac, wrth gwrs y cwestiwn pwysig bellach yw beth mae hyn oll yn ei ddweud wrthym am beirianwaith symudiad silia?

Canlyniad mwy arwyddocaol i'r adroddiad pwysig hwn oedd y symudiad a ddaeth yn ei sgîl tuag at gymhathu plant ag anghenion addysgol arbennig i brif-ffrwd y gyfundrefn addysg.

Ymhen tair blynedd fe'i symudwyd gan yr Esgob William Hughes o Lanelwy i ficeriaeth y Trallwng yn Nyffryn Hafren, symudiad a sicrhaoddd mai yn esgobaeth Llanelwy y gwnâi ei waith mawr, ffaith ddigon eironig o gofio gwrthwynebiad cynnar yr Esgob Hughes, fel rhyw fath o 'enfant terrible' yn yr Eglwys ar y pryd,i gael Beibl Cymraeg o gwbl.

Ond y mae yna reswm arall pam y mae'r symudiad yma yn un da.

Bellach yn tynnu am ei nawdegau, roedd hi'n rhan o symudiad penodol mewn celfyddyd theatr, yr English Stage Company, a ffurfiwyd yn Sadlers Wells ar ôl y rhyfel; yna, ymlaen drwy'r Birmingham Rep.

Un o'r pethau sydd yn ddiddorol i ni heddiw ydy na cheisiwyd yn y chwech a'r saithdegau gyfuno'r ddau symudiad: at Brwsel ar un llaw, ac at ddatganoli ar y llaw arall.

mewn un symudiad.

"Mi wna' i byth anghofio gwrando ar seithfed symudiad Beethoven - y rhan dawel ohono - a gwirioni ar y peth ...

Ond tra oedd Llanelli yn dal yn y gêm wrth flaene eu bysedd, cafodd y cwbwl ei wyrdroi gan un symudiad cryf gan y blaenwyr, a Tommy David yn arddangos ei fedr a'i gryfder wrth garlamu dros linell gais Castell Nedd i sgori pedwar pwynt.

Cedwir symudiad y darn trwy gyfrwng saith berf arall sydd yn cynnwys dau gyfnewid o ran person, o Robin i'r forwyn, ac yna i'r feistres, a sawl cyfnewid o ran ansawdd: 'Cymrodd', 'Deallodd', 'ymddigiodd',

Ond y ganolfan naturiol yn Aberdaron oedd yr Eglwys am ei bod hi mor hen ac yn adeilad sylweddol, a symudiad naturiol oedd i gau'r Capeli a dwad ynghyd yn yr Eglwys.

Mae ganddo sawl symudiad posibl.

Silia yn rheoli symudiad dwr.

Ond beth petai Gwyn yn penderfynu mynd â'r Marchog ar ei symudiad nesaf?

Felly, i ryd&au'r darnau mawr a'i gwneud yn bosib i'w datblygu, mae symud Gwerinwr neu Werinwyr yn angenrheidiol yn gynnar iawn - fynychaf ar y symudiad cyntaf oll.

Ystyrid cyhoeddi'r Traethawd o hyn ymlaen gan awdurdodau'r Brifysgol fel symudiad pendant tuag at Eglwys Rufain, a daeth y mudiad fwyfwy dan amheuaeth, nid yn unig yn Rhydychen, ond hefyd yn y wlad yn gyffredinol.

Roedd penderfyniad ITV i symud yn ôl i 10 o'r gloch yn symudiad positif" a fyddai'n dod â"r rhaglen yn ôl i oriau brig.

Mae'r un atdyniad yn egluro symudiad y lleuad o amgylch y ddaear, a chylchoedd y planedau o amgylch yr haul.

Bu+m wedyn yn astudio pob symudiad ym mecanyddiaeth ceg a llwnc y ddwy; roeddwn yn llyncu bob tro y llyncent hwy a hynny'n achosi rhyw arwyddion ffug i'm hymennydd!

Haedda Ian Jones air o ganmoliaeth hefyd am ei redeg medrus ar yr asgell a'i barodrwydd i geisio sicrhau parhad symudiad.

Daeth llif o feddiant o gyfeiriad y blaenwyr, ac ar ôl symudiad chwim, aeth y bêl i ddwylo'r gwibiwr J.

Ar wahan i'r ffaith fod y Gymuned yn sôn yn wastadol am holl bobloedd Ewrop ac yn trosglwyddo adnoddau (yn raddol) i'r rhanbarthau tlotaf, pa sail sydd dros gredu y bydd yn debygol o greu polisiau a fedrai hyrwyddo symudiad at Ewrop y taleithau?

Yn y frawddeg gyntaf, heb dorri ar symudiad yr adroddiad, rhydd argraff glir o gyflwr mewnol Robin.

Lluchiodd ei ben i fyny ac i'r ochr gydag un symudiad plyciog sydyn nes bod ei fwng wedi clirio o'i lygaid.

a phob symudiad yn ymddangos yn hynod o bwysig ac arwyddocaol.

Ond y llygaid oedd y peth gwaethaf, llygaid fflamgoch yn gwylio pob symudiad.

Gellir edrych ar ddefnydd o gynorthwyon o'r fath un ai fel colli annibyniaeth a symudiad o'r byd abl i amgylchedd anabl, neu fel symudiad o ieuenctid i henoed efo'i holl ddelweddau negyddol.

Yn y blynyddoedd diwethaf bu symudiad oddi wrth ddatblygu hosteli ar gyfer pobl sengl di-gartref.

Gall Cymru fod ar flaen y symudiad yn ôl at ddyrchafu gwerthoedd dynol a chymdeithas yn lle elw.

Camddeallodd e'r symudiad.

Ac er iddyn nhw dynnu'n agosach gyda gôl gosb arall, gyda rhediad athrylithgar gan Arwel Thomas - ailagorodd Cymru'r bwlch - y maswr yn ad-dalu ffydd Graham Henry ynddo mewn un symudiad.

Wrth gyfiawnhau cynnwys clychau gwartheg yn symudiad araf ei Chweched Symffoni, mynnodd Mahler mai dyna'r sŵn dynol agosaf oll at yr awyr a'r unigeddau.

Y mae meddwl y gwyddonydd ei hun mor gaeth i reolau ffisegol â symudiad y piston ym mheiriant y car modur, Ar ba sail felly y gellir honni fod unrhyw ddamcaniaeth wyddonol yn "wir".

Arddull ystwyth yw yn anad dim a'i hystwythder yn galluogi'r awdur i ddangos profiad dyn fel symudiad parhaus, rhwng elfennau sydd yn parhaol ymdorri ac yn cyd-wau.