Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

symudol

symudol

Bydd y neges yn gofyn i bobl ffonio Oftel er mwyn pwyso am wasanaeth Cymraeg gan y cwmniau ffôn symudol.

Weithiau mae'n edrych fel rhidyll symudol anferth o oleuni, fel yn 'Y Gogarth o Fangor Uchaf', lle mae'r haul yn llithro'n esmwyth trwy orchudd tenau o gymylau i oleuo'r môr.

Arweinydd milwrol, bid sicr, a phennaeth ar fintai o ymladdwyr symudol a gwibiog, ond nid cadfridog yn gwasanaethu gwladwriaeth sefydlog a threfnus; yn hytrach, anturiwr, treisiwr, ysbeiliwr, yn ymladd nid yn unig yn erbyn y Saeson ond hefyd yn erbyn ei gyd-Frythoniaid.

Roedd yna ieithoedd eraill i'w clywed yn y ffilmiau ond roedd hi'n amhosibl mynd i weld popeth, hyd yn oed i'r ffilm byff mwyaf ymroddedig a symudol.

Cefnogwch ran gyntaf ein brwydr, yn erbyn y cwmnïau ffôn symudol, trwy ychwanegu eich enw i'r ddeiseb Galwad Dros y Gymraeg.

Am 10 o'r gloch bore Dydd Llun nesaf (Mawrth 20ed) yn y Felinheli bydd aelodau o Ranbarth Gwynedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi baner ger mast ffons symudol yn y Felinheli.

Ar hyn o bryd yr ydym yn targedu'r cwmnïau ffôns symudol.

Heddiw cyfarfu dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - oedd ar daith gerdded o Gaerdydd i Lundain dros Ddeddf Iaith - â chwmni ffôn symudol Vodafone.

Mae cudynnau o gymylau porffor yn batrwm symudol trwy'r awyr.

'ofynwn i chi felly sianelu'r gwariant ychwanegol yng Nghymru drwy'r Awdurdodau Addysg Lleol ar gyfer datblygu gwasanaethau ar lefel sirol i gefnogi ysgolion e.e. athrawon symudol sy'n arbenigo ar ddysgu Cymraeg a phynciau eraill, canolfannau adnoddau a hybu cydweithio rhwng yr ysgolion.

Mae pob peth newydd, er enghraifft, ffonau symudol, i'w cael yn Saesneg ond nid yn Gymraeg.

Mae ein hadnoddau Cyfathrebu Symudol wedi gwella gyda Cherbyd Lloeren Digidol a'n cyfleusterau Ol-gynhyrchu Clywedol wedi eu huwchraddio i gynnwys Stereo Dolby llawn.

Ar y daith i Lundain mae aelodau'r Gymdeithas wedi bod yn ymweld â nifer o bencadlysoedd y cwmniau ffôn symudol sydd rhyngddynt â phen y daith, gan eu holi am eu polisïau ynglŷn â'r Gymraeg.

Ymosodwyd ar ganghennau o'r Woolwich a'r Halifax yn Stryd y Frenhines, yn ogystal â siop ffonau symudol Orange.

Yn ogystal â hyn bydd arddangosfa symudol yn ymweld â threfi a phentrefi penodol yn mhob cyngor cymuned a thref yn ystod y cyfnod ynghyd â phamffled yn egluro pwrpas a swyddogaeth y cynllun lleol ynghyd â hysbysu'r cyhoedd o'r arddangosfa yn cael ei ddosbarthu i bob cartref yn y Dosbarth.

Mae staff mewn canolfan arall, canolfan First Line, sy'n gwerthu ffôns symudol, wedi cael gwybod y bydd eu cyflogau'n gostwng.

Y bwriad yno yw cynnal protest yn erbyn un o'r cwmniau ffôn symudol er mwyn dangos fod angen am Ddeddf Iaith fydd yn ymestyn i'r sector breifat.

Bu cudyll o hofrennydd uwch ein pennau drwy'r prynhawn a'i chysgod swnllyd, symudol, yn dychryn wyn y ffridd i bob cyfeiriad cyn glanio i lyncu criw o actorion a throi porfa'r ddôl yn gryndod o nerfau.

Mae'r arbrofion yn hwyl - amrywiant o grisialau siwgr i belenni gwyfyn symudol, o bobi i dyfu gerddi crisial.

Os nad yw'n bosib anfon neges pager neu ddefnyddio'r ffôn symudol yn Gymraeg, mae hynny'n gam â'r miloedd ar filoedd o Gymry ifainc sy'n eu defnyddio.

Synnai ato ei hun yn y bore ac at ei lyfrdra yn ofni rhithiau disylwedd y nos a'r muriau symudol.

Nid yw dibynnu ar ewyllys da wedi dod â gwasanaeth Cymraeg yn achos banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau ffôn symudol, a chwmnïau meddalwedd.

Ond y canlyniad rhesymol yw mai lluniau symudol ynghyd â sain sy'n fwyaf effeithiol: gweld gwlad bell, ei phobl a'i blaenoriaethau wrth ddatblygu trwy gyfrwng darlun lliw symudol a sylwebaeth sain yw'r nesaf peth at fynd yno ein hunain.

Fore Llun, Mawrth 20fed, bydd aelodau o Ranbarth Gwynedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi baner enfawr ger mast ffôns symudol yn y Felinheli.

Dyma'r project darlledu allanol mwyaf uchelgeisiol i'w drefnu erioed, gyda phob rhaglen newyddion a materion cyfoes BBC Radio Wales yn cynhyrchu darllediadau arbennig o ddwy stiwdio symudol yng Nghanolfan Ddinesig Caerdydd.

Trwy sbectol oedolion a sbectol y ddosbarth broffesiynol, mae gan bob teulu o leiaf ddau gar, ac nid yw'n achosi unrhyw broblem i ddilyn bywyd symudol.

Fel y gwyr y rhan fwyaf, pethau tebyg i flew yw silia a fflagela, yn nodweddiadol yn symudol gan weithredu i yrru'r organeb drwy'r dwr neu i yrru'r dwr heibio i'r organeb, ac maent ers amser maith wedi denu sylw biolegwyr.

Ar y diwrnod cyn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal dadl ar yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cysylltu gyda holl Aelodau'r Cynulliad yn tynnu eu sylw at y gweithredu a fu gan aelodau'r Gymdeithas y bore yma yn erbyn mast ffôn symudol Orange yng Ngheredigion.

Cafodd aelod ei arestio wedi i rywun honni fod pornograffi plant ar gyfrifiadur symudol," meddai.

Ydw, rydw i wedi cloi fy cd's i ffwrdd yn y bbc, wedi troi fy ffôn symudol bant am y tro cyntaf erioed ac wedi gadael fy mhlatfforms a fy lip gloss yng Nghymru fach.

Rhai'n clymu rhaffau'n ddiogel a'r lleill yn rhoi sylw i bopeth symudol oedd allan yn yr awyr agored.

Deddf fyddai yn rhoi cyfrifoldeb statudol ar gwmniau preifat fel y Cwmniau Ffôn Symudol i barchu iaith Cymru yn yr un modd ag y mae disgwyl iddynt barchu yr amgylchedd a hawliau eu gweithwyr a'u cwsmeriaid.

Y mae angen diogelwch a chynhaliaeth ar y ddau er bod un yn sefydlog a'r llall yn symudol oddi fewn i'w blaned ei hun.

Ar y daith i Lundain fe fydd aelodau'r Gymdeithas yn ymweld a nifer o bencadlysoedd y cwmniau ffôn symudol sydd rhyngddynt a phen y daith gan eu holi am eu polisïau ynglŷn â'r Gymraeg.

Gyda'r twf yn y defnydd o gyfrifiaduron, y we, canolfannau galw, ffôns symudol, a.y.y.b., rhaid cael Deddf Iaith a fydd yn mynnu lle i'r Gymraeg yn y meysydd newydd hyn.

Golyga hyn fod lefel cynnyrch cyflogaeth lawn yn darged symudol ac, oherwydd hynny, yn fwy anodd o lawer i'w fwrw na tharged sy'n aros yn ei unfan.

Mae presenoldeb bywiog a chryf yn y meysydd hyn yn allweddol i ddyfodol y Gymraeg, ac mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymrwymo i'r ymgyrch hon, gan adeiladau ar yr ymgyrch i Gymreigio ffonau symudol, cwmni Microsoft a chanolfannau galw.

Gafelodd Mrs Kramer yn y ffôn symudol ac arweiniodd Leah a Harvey allan i ddiogelwch y lawnt.

Symudol yw'r boblogaeth nawr, ac er fod y newydd-ddyfodiaid, yn Gymry a Saeson, yn fwy amharchus o'r Sabath na'r oes o'r blaen, eto y maent hwythau yn parchu cymdogaeth dda ac y mae'r ddisgyblaeth gymdeithasol yn para yn ei grym.

Bu cwyno yn y papur bro lleol, Llafar Bro, fod mast teliffon symudol hyll wedi ymddangos, a mawr oedd y cwynion yn ei erbyn.

Nid oedd gennym recordydd fideo symudol a allai weithio heb gyflenwad trydan, ac yn ychwanegol at hyn nid oedd modd prynu camera fideo lliw symudol am bris rhesymol a fedrai ateb ein hanghenion.

Cyhoeddodd Academi Celfyddydau a Gwyddorau Darluniau Symudol America heddiw fod y ffilm 30 munud o hyd, Chwedlau Caergaint, wedi ei henwebu am Oscar - y trydydd tro i un o ffilmiau S4C dderbyn cydnabyddiaeth o'r fath.

Yn y dagell fyw, mae pad o silia gwahanedig sy'n symudol ac mae ganddynt guriad effeithiol sy'n rheiddio o ganol y pad.

tonnau'n chwyddo yn y pellter fel mynyddoedd mawr symudol, ac yn nesu a thorri'n gesyg gwynion anferth a chlecian a chwalu ar y Maen Du.

Ac y mae yr adwaith o hyd yn newid, y berthynas rhwng un uned a'r llall yn cael ei lleihau neu agosa/ u, ac mae'r finiau rhwng unedau yn aml yn aneglur ac yn symudol.

Bellach i'r naill awdur fel y llall, os mewn dulliau gwahanol i'w gilydd, y mae seiliau'r gymdeithas yn gwegian, ac mae'r pwyslais wedi symud oddi wrth natur yr hen gymdeithas at broblemau'r unigolyn o fewn y gymdeithas mewydd symudol ac ansicr, ac oddi wrth ddigwyddiadau allanol dwys neu ddigri at gymhellion mewnol unigolion yn ceisio ymdopi â bywyd.

Felly, er fy mod yn poeni am 'safon' iaith fel ein sylwebyddion, y tu fas i'r Cynulliad Cenedlaethol / Cyngor Sir / Cymdeithas Adeiladau / Cwmni Ffôns Symudol y mae lle Cymdeithas yr Iaith i brotestio o hyd; ac nid trwy gynnal darlleniadau cyhoeddus o Ramadeg y Gymraeg yn y gobaith y bydd rhywrai'n cael eu hadfer i ddefnyddio'r treigliad llaes yn ei holl ogoniant.

Mae'r ffurf hon yn gyfleus iawn i gynnal bywyd, oherwydd ar ffurf nwy mae carbon yn elfen symudol iawn ac oherwydd ei hydoddedd gall gymryd rhan mewn amryw o adweithiau.

Bellach, mae cwmnïau preifat yn rheoli sawl agwedd ar ein bywydau - ffônau symudol, cyfrifiaduron, siopau ac yn y blaen, ac mae'n amlwg i bawb fod angen deddfwriaeth dros y cyrff hyn.

Ceir cudynnau o silia ansymudol ar dagellau'r holl Ddeufalfiaid a chredir bod iddynt swyddogaeth synhwyro ond mae'n anodd eu harchwilio yma ar y dagell gan fod cymaint o silia symudol yn bresennol.

Mae'r cwmnïau ffôn symudol yn gwrthod darparu gwasanaethau Cymraeg i'w cwsmeriaid.

Bydd y neges ar y faner yn gofyn i bobl ffonio Oftel er mwyn pwyso am wasanaeth Cymraeg gan y cwmnïau ffôn symudol, a hefyd yn datgan yr angen am ddeddf iaith newydd.