Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

symudwyd

symudwyd

Wedi hynny symudwyd hi i Fryn Blodau, ger Ty'n Pant, wedi i'r lle hwnnw ddod yn gartref i John Roberts, Tyddyn, un o sylfaenwyr yr Ysgol Sul.

Erbyn dechrau'r mis, dylai'r tŷ gwydr fod yn glir ar gyfer plannu cnwd yn ei forderi os symudwyd y planhigion a oedd mewn blychau a photiau i'r ffrâm oer i gael eu caledu.

`Mae'n rhaid fod rhywbeth ynddo.' Funudau'n ddiweddarach symudwyd y cwn oddi yno ac aeth yr arbenigwyr draw at y parsel.

Symudwyd hi i Lanbedr Pont Steffan yn y ganrif ddiwethaf ar ol agor gorsaf reilffordd.

Yn Nhachwedd y flwyddyn ddilynol symudwyd y coleg i'r Bala.

Symudwyd wedyn i Festri Pantglas am rai blynyddoedd.

Y diwrnod y symudwyd i mewn i'r tŷ clywodd ef ddau hen ŵr yn siarad â'i gilydd, un yn gofyn i'r llall 'Sgwn i pwy sy'n dod i fyw yn y tŷ hwn?' a'r llall yn ateb 'Saeson mwy na thebyg'.

Ymhen tair blynedd fe'i symudwyd gan yr Esgob William Hughes o Lanelwy i ficeriaeth y Trallwng yn Nyffryn Hafren, symudiad a sicrhaoddd mai yn esgobaeth Llanelwy y gwnâi ei waith mawr, ffaith ddigon eironig o gofio gwrthwynebiad cynnar yr Esgob Hughes, fel rhyw fath o 'enfant terrible' yn yr Eglwys ar y pryd,i gael Beibl Cymraeg o gwbl.

Cafodd y bobl a symudwyd o'r hen ddinas eu hail-gartrefu mewn fflatiau ar gyrion Havana.

Symudwyd y 'Welsh Assistant' o Gaerdydd i Fangor i fod yn Gynrychiolydd y BBC yng Ngogledd Cymru.

Mae'n rhaid i ni greu un brydferthach fyth pan symudwn ni.' Symudwyd pobl Uitenhage o'u tref.

Ar ôl trafod Billy Meredith symudwyd i'r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd ac at dri chwaraewr o'r Alban - y Wembley Wizards: Alex James, Alex Jackson a Hughie Gallacher.

Bu yn Ysbyty Gwynedd am gyfnod ac fe'i symudwyd oddi yno i'r Cefni.

Fe symudwyd y prawf i Ruthun ar ol protestio hir, ond ni ellir osgoi'r elfen genedlaethol Gymreig sy'n dod i'r amlwg yn hanes y 'Rhyfel'.