Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

synhwyrol

synhwyrol

Gwelwn Ddeddf Iaith Newydd i'r Gymraeg fel ffordd synhwyrol ac angenrheidiol o greu hinsawdd ffafriol ble gall y Gymraeg ffynnu.

Yn wir, fe all fod yn amhosibl dyrannu'r argost ar unrhyw sail synhwyrol, a byddai ceisio gwneud hynny'n rhoi atebion hollol gamarweiniol.

Ni fyddai Francis yn siarad rhyw lawer; myfyrio, a meddwl rhyngddo ac ef ei hun y byddai fel arfer, ond os byddai'r pwnc wrth ei fodd byddai ganddo ddigon i'w ddweud, a hwnnw'n ddweud synhwyrol.

Rhaid i mi wneud fy ngorau glas i ddod i benderfyniad synhwyrol, ac i'r perwyl hwnnw, da o beth fyddai bwrw golwg yn ôl a cheisio dadansoddi, mor wrthrychol ag y medraf, yr holl ddylanwadau a'm harweiniodd i'r fan hon.

Byddwch yn synhwyrol wrth ddewis bwyd.

Gae'r Gymdeithas yn bwriadu, trwy gynnal arolygon diogelwch, gwell Qweithdrefnau, hyfforddi a rhagweld synhwyrol gan reolwyr a gweithwyr i wneud cyfraniad sylweddol at atal damweiniau.

Rhaid i ti gyfaddef iddi geisio ein brifo ni ym mhob ffordd bosib: ninnau'n ceisio bod yn garedig wrthi, yn ei gwahodd hi yma, yn mynd a hi allan am fwyd, yn ceisio ymddwyn yn war ymhob ffordd, a dangos fod modd i dderbyn y pethau hyn ond ymddwyn yn synhwyrol.

Arferai gynghori llenorion ifanc i ddefnyddio geiriau byrion, perthnasol, a brawddegau clir synhwyrol, gan fod papur yn rhy ddrud i'w wastraffu ar ddwli, a darllenwyr yn rhy brin a gwerthfawr i'w colli am byth.

Byddwch yn synhwyrol - ac yn realistig - am y gwobrau.

Yr oedd ei chyfeillesau wedi ei gadael oddieithr y ``wraig synhwyrol''.

Ond ar ôl dweud hynny, 'roedd yna sail synhwyrol i'w cyfarwyddyd nesaf: Cymerwch Nitre a Cream of Tartar, dwy owns o bob un: Epsom Salts, hanner pwys.

Wrth weld nifer yr ymwelyddesau caredig a da eu hamcan yn ddiamau yr wyf yn meddwl ddarfod imi wneuthur yn gall drwy ofyn i wraig synhwyrol gymryd gofal o Miss Hughes a'i chadw rhag cael ei boddi gan gydymdeimlad.

Dwyt ti ddim yn gweld, cariad, dyna pam mae'n rhaid i ni drafod y peth yn synhwyrol cyn iddo allu'n gwenwyno ni am byth.

Yn hwn fe'i hamlyga Rowlands ei hun yn hanesydd synhwyrol a gofalus.

O brofi buddugoliaeth unwaith fe all O'Sullivan synhwyrol fynd rhagddo i wneud hyn dro ar ôl tro.

`Fe'i gelwir hi yn "Ogof Angau% ac mae pawb synhwyrol yn cadw draw.' Dim ond gwenu a wnaeth Attilio.

Ond nid oes rhaid wrth brofiad newyddiadurol i fedru darllen y newyddion, i wneud bwletin yn gredadwy, ac i ddarllen y naill stori ar ôl y llall yn rhesymegol, yn synhwyrol a chydag argyhoeddiad.

Wrth glywed Llais y Llosgwr mae'r awdur Dafydd Andrews yn cymryd un o ddirgelion mawr y blynyddoedd diwetha' - yr ymgyrch losgi tai haf - a'i gweu i mewn i nofel synhwyrol a synhwyrus.