Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

synio

synio

Yn hytrach na synio am Siôn fel un sydd wedi ymadael â'r byd hwn yn derfynol (fel yr awgrymir gan yr ystrydeb 'yr ymadawedig'), mae'r gerdd yn ei ddarlunio fel petai'n dal i fodoli.

Nid wyf yn ddigon ffôl i gredu mai drygioni ac anwybodaeth sydd wrth wraidd syniadau eraill, daliadau'r Adwaith, ond yr wyf yn hollol sicr yn fy meddwl fy hun fod y rhai sy'n synio felly yn camgymryd yn ddifrifol.

Lle cynt y darluniwyd Crist 'yn un â phridd y ddaear' a'i adael ar hynny, bellach daethpwyd i'w gynysgaeddu ag enaid ac i synio amdano fel 'Iesu rhydd', fel un (a defnyddio iaith Peate am y tro heb egluro dim arni) wedi canfod ei enaid a thrwy hynny sicrhau anfarwoldeb iddo'i hun.

Nid wyf yn ddigon ffol i gredu mai drygioni sydd wrth wraidd y syniadau eraill, daliadau'r Adwaith, ond yr wyf yn hollol sicr yn fy meddwl fod y rhai sy'n synio felly yn camgymryd yn ddifrifol.

Ond gwell synio amdani fel y detholiad hwnnw ohonynt yr oedd yr esgob yn eu harddel fel perthnasau a chyfeillion y gallai ymddiried ynddynt.

Yr oedd ei ymchwiliadau i lenyddiaeth yr Oesoedd Canol wedi ei arwain i synio am gelfyddyd fel disgyblaeth:

Cyn bo hir aethpwyd i synio am ei 'dad' fel tipyn o ddewin.