Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

systemig

systemig

Nid gweslyfr mewn methodoleg ydyw, yn ôl yr awdur, ond cyflwyniad i astudio'r Gymraeg, gosodiad diymhongar iawn, a dweud y gwir, gan fod y bennod olaf, o leiaf yn canolbwyntio ar ddisgrifio methodoleg un ysgol ieithyddol, yr Ysgol Systemig, y gellir ei dilyn ar gyfer gwneud disgrifiad syncronig o'r Gymraeg, ac y mae'r bennod o'i blaen yn olrhain y datblygiadau yn nulliau ymchwilwyr i'r tafodieithoedd.

Yng ngweddill y bennod, canolbwyntio ar y fframwaith disgrifiadol sy'n diddori yr awdur ei hun, sed Gramadeg Systemig, a ddatblygwyd gan M A K Halliday dan ddylanwad syniadaeth ei gyn- athro, J R Firth, am lefelau dadansoddi, sef Sylwedd, maes Seineg a Graffeg; Ffurf, maes hyn gan Rynglefelau: Ffonoleg ac Orgraff, y rhynglefel sy'n cysylltu Sylwedd a Ffurf, a Chyd-destun (neu Ystyr), sy'n cysylltu Ffurf a Sefyllfa.