Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tabl

tabl

Mae silicon yn yr un golofn a charbon o fewn y tabl cyfnodol ac, fel carbon, elfen detra- falent yw silicon hefyd.

Mae Abertawe nawr wedi disgyn i'r 19ed safle yn y tabl.

Ar hyn o bryd mae'r Barri, sydd ar frig y tabl, dri phwynt o flaen Cwmbran.

Y mae nifer y bobl ym mhob un o'r tri grŵp hyn yn amrywio o un rhan o'r wlad i'r llall, fel y gwelir yn y tabl hwn

Mae Caerdydd yn sicrach fyth o ddyrchafiad i Ail Adran y Cynghrair Nationwide ar ôl i banel disgyblu Cymdeithas Pêl-droed Lloegr argymell y dylai Chesterfield - sydd ar frig y tabl - golli naw pwynt.

Llanelli a'r Athrofa sydd nawr ar waelod y tabl.

Byddai buddugoliaeth yn eu codi i hanner uchaf y tabl.

Dangosir y data perthnasol yn y tabl isod.

'Mae Luton un safle yn is na ni yn y tabl a mae hon yn mynd i fod yn gêm fawr.

Mae Watford yn ddegfed a Preston yn bumed yn y tabl.

Diddordebau/ gweithgareddau'r sampl Dyma brif ddiddordebau'r sampl yn eu trefn : O edrych ar y tabl uchod, gwelir fod y pedwar diddordeb cyntaf yn weddol gyfartal o ran canrannau o fewn y grwpiau oedran a nodir.

Yn y tabl isod nodir gwybodaeth am yr ystyriaethau ychwanegol hyn.

Yn Ail Adran y Cynghrair Nationwide bydd Wrecsam yn croesawu Stoke sy'n wythfed yn y tabl.

Yn y tabl isod dosberthir cynnyrch Cymraeg y ddwy flynedd yn ôl eu prif nodwedd - Print, Fideo, Sain, Meddalwedd

Bydd Lerpwl yn chwarae Ipswich sy'n bedwerydd yn y tabl.

Mae Caerdydd yn drydydd yn y tabl, dri phwynt y tu ôl i Abertawe sy ar y brig.

Dengys y tabl isod y deg cylchgrawn Saesneg mwyaf poblogaidd yn ôl y sampl : Gwelir mai cylchgronau i ferched yw'r rhai mwyaf poblogaidd o bell ffordd a nifer helaeth o'r rheini yn rhai wythnosol.

Amcangyfrifon bras yw'r ffigurau a gynigir yn y tabl.

Mae'n nhw'n ddiogel yng nghanol y tabl ac fe ellid tybio na fyddan nhw'n cymryd y gêm ormod o ddifri.

Mae'r pwynt yn codi'r Athrofa oddi ar waelod y tabl.

Mae'n bosibl hefyd bod y tabl hwn yn adlweyrchiad o beth yw oedran y rhai hynny sy'n bwrw ati i ddysgu'r iaith.

Mae hynny'n golygu bod tîm Gerard Houlier wedi colli'r cyfle i godi i'r tri ucha yn y tabl.