Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tacsi

tacsi

Canolbwyntiodd Night Moves, cyfres o bedair drama radio a ysgrifennwyd gan Rob Gittins (sydd wedi ysgrifennu straeon ar gyfer EastEnders), ar fywydaur heddwas, y fadam, y bownser ar gyrrwr tacsi.

Ym mis Tachwedd gollyngwyd bloc o goncrid o bont ar ben tacsi a gludai'r rhai a oedd yn torri'r streic i'w gwaith, a lladdwyd y gyrrwr.

Buom yn disgwyl am tua deng munud ond tra'n disgwyl daeth nifer o yrwyr tacsi atom i ofyn os oedd angen un arnom.

Cred ambell yrrwr tacsi ei bod yn lwcus i gael cerbyd â'r llythyren U yn y rhif.

Pan gyrhaeddodd y dyn camera a minnau'r Laleh mewn tacsi, roedd e'n disgwyl amdanom yn y cyntedd.

Cefais fy hun yno y noson o'r blaen yn darparu gwasanaeth tacsi ar gyfer y ferch.

I Agra ymhen tair awr, a chael fy nal gan ddyn tacsi sy'n cynnig gofalu amdanaf trwy'r dydd, am bris rhesymol, rhaid cyfaddef, am fod y bobl sy'n arfer rhedeg bysiau i'r Taj wedi mynd ar streic.

Heblaw trïo stopio tacsi yn Aberystwyth unwaith efallai... ond stori arall ydi honno.

Dim ots faint o weithiau ddwedes i na, 'roedd pob un ohonynt yn bendant ein bod wir angen tacsi.

Ond os oedd honno'n disgwyl i Miss Lloyd brynu ffrog iddi hi hefyd, cael ei siomi a gafodd, a dim ond Miss Lloyd a gariai fag papur yn ol at y tacsi ar ddiwedd y dydd.

Tacsi o dy Nain a Taid yn Maes Barcer i Stesion Gaernarfon i ddal y trên i Fangor a newid ym Mangor i fynd i Heathrow i ddal yr awyren i Awstralia.

Dim ond un tacsi oedd yn y dref, tacsi Now Llwynrodyn, ac roedd hwnnw'n codi crogbris.

Ac er ei bod hi'n ddigon hawdd cael gafael mewn tacsi, chewch chi ddim teithio ynddo os nad yw'ch cyrchfan chi wrth fodd y gyrrwr.

Ond i'r teithiwr busnes sy'n cyrraedd y maes awyr ac yn llogi tacsi er mwyn cyrraedd ei westy, llwyd a dilewyrch yw'r argraff gyntaf o'r drefedigaeth; heolydd penrhyn Kowloon rhwng y maes awyr a'r twnel i ynys Hong Kong yn dagfa drafffig fyglyd, fflatiau'r pumdegau a'r chwedegau yn salw o'u brig i'w bôn, ysbwriel o'r lloriau uwchben wedi disgyn yn bentyrrau pwdr ar y mân doeon sy'n cysgodi prysurdeb y stryd rhag bygythiad glaw tyrfau'r gwanwyn.

Yn y tacsi ar ein ffordd 'nôl i'r maes awyr, troais at Norman i'w longyfarch.

Prynu basgedi bambw mawr ar gyfer y ty, felly rhaid oedd dal tacsi yn ôl i'r coleg a bargeinio efo'r gyrrwr.

Gan ddefnyddio tacsi â rhifau Palsteinaidd - a Phalestiniad wrth y llyw - fe lwyddon ni i gyrraedd y sgwâr lle'r oedd Siwsan yn byw.

'Tacsi, debyg iawn?'

Canolbwyntiodd Night Moves, cyfres o bedair drama radio a ysgrifennwyd gan Rob Gittins (sydd wedi ysgrifennu straeon ar gyfer EastEnders), ar fywydau'r heddwas, y fadam, y bownser a'r gyrrwr tacsi.