Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tadau

tadau

Ufudd-dod i draddodiad yw pwnc y llyfr: pwysigrwydd amddiffyn purdeb ffydd y tadau rhag cael ei wenwyno gan heresi uchel-Galfiniaeth.

Ond fel dwedodd y Saesnes benwyn, rhywbeth i'r kids - heb anghofio'r mamau a'r tadau sy'n eu gwthio - ydi'r Eisteddfod.

Fe ddylen nhw, o bawb, wybod pa mor ofnadwy o annheg yw hi i ymweld ag anwiredd plant ar eu tadau.

Gyda llawer ebychiad o 'Ie, ie, rwy'n cofio Nhad yn dweud,' a 'Dyna oedd y stori glywes i gyda Mam, druan,' gwrandawyd arno'n rhestru gweithredoedd y tadau.

Yr oedd eu gwir elynion hwy yn eu gwlad eu hunain, gorthrymwyr eu tadau a threiswyr eu hynafiaid.

Cofiwn heddiw gyda diolch am ymdrech a llafur arbennig y tadau i'w godi.

Dywedodd wrthyf, Fab dyn, yr wyf yn dy anfon at blant Israel, at y genedl o wrthryfelwyr sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn; y maent hwy a'u tadau wedi troseddu yn fy erbyn hyd y dydd heddiw.

Tybed beth a ddywedai'r tadau gynt pe deuent ar ymweliad eto â'r henfro?

Wel, dwn i ddim, roedd y tadau yn gallach o lawer weithiau.

Pa hawl foesol oedd ganddo i ddiwygio treftadaeth y tadau a newid adeiladwaith bro?

Er enghraifft, yr oedd yn Annibynnwr pybyr ac yn ymhoffi yn hanes y tadau.

Hwn yw y gofyniad mawr, a yw Cymru i bara yn wlad foesol a chrefyddol fel ei gwnaed gan Ymneilltuaeth Gymreig, ynte a ydyw yr egwyddorion, dros y rhai y gwaedodd ein tadau, i gael eu gwadu?

Mae'n deg tybio y gallai'r neges a yrrai'r tadau Piwritanaidd i'r afael â'r drygau hyn gyda'r Efengyl ar eu tafodau yn awgrymu y dichon fod eu neges hwy'n berthnasol yn ein hoes ninnau.

Ymhlith y Tadau Eglwysig cynnar nid yw dehongliadau o waith Crist yn ymddangos yn ganolog yn eu gwaith.

Ac nid mamau yn unig - ond tadau yn ogystal, arferiad na welid mohono ym Morgannwg y dauddegau.

Nid yw'n weddus i gredu yn hen goelion ein tadau - dyna safbwynt gyffredin iawn heddiw.

Mamau oedd mamau a thadau oedd tadau.

Roedd tadau a theidiau yn ei hadrodd wrth y gwragedd a'r gwragedd yn ei hail-ddweud wrth y plant.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Eisteddodd disgynyddion William Davies, Fforest Uchaf, teuluoedd Nant y Gro, Culheol, Y Tyddyn Melyn, Maesgwilym, Tŷ Mawr a Phwllygod a Thŷ'r Gors a'r Waungrin a gwrando ar gatalog o weithredoedd eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau.

Mae miloedd o feibion wedi cofleidio eu tadau, waeth beth mae'r tadau hynny wedi'i wneud.

Ac onid dyna bwrpas aberth ein tadau dros addysg sicrhau mai'r unig lyfnu a wna'r plant fydd llyfnu penolau eu trowsusau mewn parchusrwydd?

Yn awr mae plant yn cael mwy o arian poced nag a enillai ein tadau o gyflog mewn wythnos.

Er mai plant a phobl ifanc yw'r rhan fwyaf ohonynt, ceir mamau, tadau a hen bobl yn troi i mewn o dro i dro.

Y Tadau Gwrth-Gnosticaidd

Yr ydym yn amharod i fwrw heibio'n llwyr hen goelion ein tadau.

Rydym wedi etifeddu credoau'r tadau yn gwbwl ddiarwybod i ni - a'r un mor ddiarwybod yn eu trosglwyddo i'n plant.

Am hynny, yn dy ganol di bydd tadau yn bwyta eu plant a phlant yn bwyta eu tadau; gwnaf farn â thi, a gwasgaraf i'r pedwar gwynt y rhai a weddillir ohonot.

Cywilyddio'r Tadau fu mor arloesol yn eu dydd fyddai peidio ag achub ar y cyfle y mae amgylchiadau newydd yn eu cynnig i agor ffordd newydd i Iesu ddwyn ei waith i ben heddiw, weithiau ar y rhos, weithiau trwy'r graig!

Cymdeithasai'n gartrefol â'r tadau cynnar a gwyddai'n iawn beth oedd arwyddocâd y dadleuon astrus hynny yn y bedwaredd a'r bumed ganrif a luniodd yr athrawiaethau uniongred am berthynas Personau dwyfol y Drindod â'i gilydd.

Mae tadau fel arfer yn rhoi Mecano neu Subutio i fechgyn adeg Nadolig, ond roth o lyfr cynganeddion i fi.

Codai egwyddor 'reserve' yn naturiol allan o astudiaeth y Tractariaid o weithiau'r Tadau Eglwysig, sef cadw'n ôl y gwirionedd mwyaf cysegredig a dirgelion y Ffydd hyd nes y byddai'r 'dysgwyr' yn y Ffydd Gristnogol wedi gorffen eu cwrs o hyfforddiant ac wedi'u dangos eu hunain yn gymwys i'w derbyn.

Dirmygu dyn yw bodloni i iaith a fu'n etifeddiaeth i'n tadau ni fil a hanner o flynyddoedd farw.

Rhag cywilyddio'r tadau .