Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tafodau

tafodau

Hynny oherwydd bod natur iaith y rheini yn peri fod eu tafodau yn cael yr holl ymarfer maent ei angen wrth iddyn nhw ynganu geiriau Ffrangeg ac Eidaleg.

Denir y gloynnod gan eu lliw a'u harogl ysgafn a gwthiant eu tafodau hirion yn ddwfn i'r neithdar yn yr ysbardun hirgul.

Gwelaf fod cwmni diodydd yn rhannu pwysau a dymbels bychain arbennig ar gyfer ystwytho tafodau pobl.

Mae'n deg tybio y gallai'r neges a yrrai'r tadau Piwritanaidd i'r afael â'r drygau hyn gyda'r Efengyl ar eu tafodau yn awgrymu y dichon fod eu neges hwy'n berthnasol yn ein hoes ninnau.

Yna, yn rhyfedd iawn, aeth y tafodau'n dawedog, a theimlodd pawb rhyw gywilydd o fod wedi chwerthin am ben un na wnâi ddim byd gwaeth na chadw iddi hi ei hun.

Erbyn hyn wrth gwrs, a Morfudd wedi bod yn ei bwthyn ers sawl blwyddyn, ac atyniadau llawer mwy pêr wedi cyrraedd y pentref i ddifyrru'r tafodau yn y cyfamser, anaml iawn y byddai unrhyw drafod ar yr hen wraig, yn gyhoeddus o leiaf.

Y bwriad yw cael pobl i godir pwysau gydau tafodau fel y byddont yn gallu defnyddio eu tafodau yn fwy effeithiol wedyn pan yn cusanu.