Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tagu

tagu

mi geuson nhw row wedyn - Mrs Robaits yn deud y basa hi wedi medru tagu i farwolaeth - ond doeddan ni ddim yn medru peidio chwerthin, roedd o mor ddoniol.

Roedd yr etifeddiaeth, fodd bynnag, yn cynnwys anghenfil y wladwriaeth gostus a oedd yn tagu'r wlad a'i phobl.

Mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi gweld ffilmiau arswyd lle mae dyn gorffwyll, yng ngolau'r lloer, yn gafael yn ei wddf, yn gwneud synau sy'n awgrymu ei fod ar fin tagu ac yn troi yn ...

Y ddwy wedi prynu ein hoff lysiau i baratoi'r pryd a choginio cymaint o chillies nes bo llygaid Kate a minnau'n diferu, a'r ddwy ohonom yn tagu yn y fflat.

A'r funud honno, fel tae o'n gneud ati, ymddangosodd Malcym yn chwil o ganol y das wair, yn pesychu, tagu, tishian, rhochian, poeri a mygu am yn ail.

Roedd Leah wedi hanner deffro ac yn dechrau tagu yng nghanol y mwg yn ei llofft hi.

Ac efallai y bydd rhai darllenwyr yn tagu ar y blas rhywiol sydd ar bopeth.

Gormod neu ddim ydi hi'n dueddol o fod, a chwarae teg i'r gynulleidfa, mae gormod o unrhyw beth yn gallu tagu.

Pan oedd Samaria dan warchae, a gwersyll y Syriaid tu hwnt i'r gorwel yn rhywle, yn tagu'r ddinas gan newyn, fe ddaeth pedwar gwahanglwyf at y pyrth.

Ar y ffordd wrth fynd i Lunden Gwelais wraig yn bwyta bricsen Dywedais wrthi am beidio tagu, Fod y dþr yn agos ati.

'Y blodau!' gwaeddodd Bigw, ac edrychais i fyny a'i gweld yn bwrw blodau, cafod fawr o flodau amryliw yn ein tagu gyda'u perarogl.

"'Chlywi di moni hi'n tagu?" Gogwyddais fy mhen i wrando, ac yn sicr ddigon clywn ambell besychiad cysetlyd yn gymysg â siad grefi a sibrwd siarad yn y cefn.

Roedd ei thoracs yn grwn hefyd, ae mor ddu ag eirin tagu.