Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tair

tair

Onid gwell, yn lle'r ysgol honno o fil o blant, fyddai cael tair ysgol lai gyda rhyw drichan disgybl yr un?

Mae hyfforddwr Awstralia, Rod McQueen, wedi dweud y bydd yn rhoi'r gorau i'w swydd ym mis Medi ar ôl taith y Llewod a Phencampwriaeth y Tair Gwlad.

Nawr gall tair cenhedlaeth fwynhau trysorau Llyfr Mawr y Plant yn y Mileniwm nesaf a rhannu'r profiad darllen unigryw hwn unwaith eto.

Er y byddai'n bosibl, wedi i broject tair blynedd ddod i ben yn llwyddiannus, i'r Swyddfa Gymreig gytuno i ariannu project newydd yn yr un maes i'w gyflawni o fewn cyfnod penodol pellach, nid ystyrir fod profiad o gyflawni project blaenorol yn fwy manteisiol na phrofiad diweddar yn y dosbarth ac anarferol fyddai penodi swyddog project am ddau gyfnod yn olynol.

Teimlech rhyw ysbryd yn eich codi a'ch llonni wrth ddawnsio iddyn nhw, ac yn sicr y tair noson ola' pan oedd y dawnswyr oll gyda'i gilydd oedd uchafbwyntiau'r žyl inni.

Un gan Howell Davies; chwech gan Peter Williams--ac ohonynt hwy y mae tair yn gyfieithiadau, ac un yn ei Saesneg gwreiddiol; cyfieithiadau o bregethau gan Whitefield, James Hervey, William Romaine, y brodyr Erskine a'r brodyr Wesley.

Roedd tair wiced yr un hefyd i Darren Thomas a Dean Cosker a roedd yna 14 o belennaun weddill wrth i Forgannwg ennill o ugain rhediad.

Roedd eraill ar eu ffordd i'r wlad lle bydden nhw'n treulio tair wythnos yn cynaeafu dail baco.

Tair gawson ni - dyna'i gyd.

Er hynny, fe ildiodd Gadaffi i demtasiwn a cheisio denu tair ohonyn nhw i'w wely.

Roedd yn arferol chwarae tair gêm mewn wythnos, sef brynhawn Mercher, y Sadwrn a'r Sul.

Y mae tair elfen felly yn perthyn i draddodiad barddol dyffryn Aman yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Pentref bychan oedd Sipi, - tair siop ac ysgol Gatholig fawr gyda llawer o ffermydd bychain o gwmpas.

Mae Penybont yn dal ar frig y Cynghrair - wedi colli dim ond tair gêm hyd yn hyn.

Bu Ruddock yn hyfforddi Leinster ers tair blynedd.

Bu farw tair merch fach a dwy wraig yn y fflamau.

Mae'n rhaid 'mod i wedi gneud, achos pan glywodd y ddynas mai wedi dŵad yma ar 'y ngwylia' ro'n i, mi ddaru hi roi pisyn tair yn bresant i mi, i mi gael ei wario fo yn ystod yr wsnos.

Yr hyn a gawsom i swper y noson gyntaf oedd tafellau o goes porc wedi eu rhostio, gyda thatws, pys a chawlifflwr, i ddewis y lleiaf lletchwith o'r tair ymdrech yn y Geiriadur Termau.

mae'r bardd Llydaweg, Youenn Gwernig, wrthin paratoi cyfrol tair-ieithog o gant o gerddi yn y mesur.

Er i Essex ddechraun dda, roedden nhw yn 113 am ddwy, fe ddaeth Keith Newell ymlaen i gipio tair wiced am 36, ei ffigurau gorau mewn gêm undydd.

Y nod oedd recordio digon o ddeunydd yn ystod taith ffilmio tair wythnos yn y Swdan i'n galluogi i ddangos hanner dwsin o raglenni i'w defnyddio yn rheolaidd mewn dosbarthiadau, a phob un yn dangos rhyw agwedd arbennig ar ddatblygu.

Mae BBC Cymru bellach yn unigryw gan ei fod yn cynhyrchu tair cyfres ddrama ddyddiol: Pobol y Cwm ar gyfer S4C, Eileen ar gyfer BBC Radio Cymru a Station Road ar gyfer BBC Radio Wales.

Ond prin y gellid disgwyl i Gymro ifanc tair ar hugain oed, ar dân o frwdfrydedd tros ei egwyddorion crefyddol, sylweddoli fod y rhod yn troi ac y byddai ei dynged ef ei hun yn dystiolaeth drist i effeithiolrwydd yr adwaith o dan John Whitgift.

Gyda golwg ar y tair stori a leolir ym Morgannwg, straeon am gyfnod y Streic Fawr yng nghanol y dauddegau ydynt; ac yn un ohonynt, sef yn 'Gorymdaith,' teflir cip yn ôl ar y cyfnod yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaethai hen dadcu a hen famgu Bronwen i'r cymoedd am y tro cyntaf, 'wedi teithio mewn cert o Sir Gaerfyrddin.' Un o ferched Arfon oedd Kate Roberts wrth gwrs - ni chaiff neb anghofio mai yno y'i maged: Arfon (fel y gwelsom) oedd y magned a'i tynnai hyd yn oed ar ei gwely angau - a chan mor gysa/ ct a thriw y portreada hi fywyd y werin-bobl a drigai yno, ei llenyddiaeth hi yw'r nesaf peth at hanes cymdeithasol bro'r chwareli a luniwyd erioed.

c) mai realiti'r sefyllfa yw fod cyrff o fewn y tair sector (cyhoeddus preifat a gwirfoddol) yn gweithredu fel taw Saesneg yw iaith swyddogol y wladwriaeth, ac yn amlach na pheidio unig iaith swyddogol y wladwriaeth hefyd.

Mae angen tair ffrâm arall ar Williams i gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Os bydd chwaraewr yn dal tair pêl mewn un llaw tra'n 'syrfio' ni chaiff ddim ond anlwc.

Mae rheolwr Abertawe, John Hollins, wedi cytuno ar delerau gyda'r clwb ac wedi arwyddo cytundeb tair blynedd.

Mae amddiffynnwr canol Abertawe, Matthew Bound, ar fin arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb.

Y mae'r tair merch sydd heddiw, a minnau'n sgrifennu, yng ngharchar Bryste wedi eu rhwystro rhag siarad yn eu mamiaith wrth eu mamau, yn pigo cydwybodau hyd yn oed aelodau seneddol Cymreig y Blaid Lafur.

Y Palas Llundain, Dydd Llun Annwyl Llefelys, Dim ond nodyn byr i ddweud fod gen i dipyn o broblem yma yn Ynysoedd Prydain ar hyn o bryd, - wel, tair a bod yn fanwl gywir.

Os yw'r tair cyfrol yma'n groesdoriad teg o lyfrau poblogaidd yn y Gymraeg, maen nhw'n dystiolaeth glir bod pethau'n fyw iawn ac bod yna amrywiaeth sylweddol.

Soniai am streic setiwrs yng Ngogledd yr Unol Daleithiau, a phob setiwr yn y De'n cyfrannu tair doler yr wythnos at eu cadw allan.

cymaint gwell fyddai bywyd wedi bod i ni'n tair.

Oddi mewn, ceir tair petal fechan ynghyd â gwefus fawr ar lun a lliw gwenynen.

Mae Emlyn Penny Jones yn byw gyda'i wraig, Siân, a'u tair merch yn ardal Tonteg ger Pontypridd.

Godam oedd ei enw ac mi aeth o mewn tair llong ar ddeg o Rhos on Sea.

Wedi tair munud o amser ychwanegol llwyddodd Robert Earnshaw i rwydo'n bert i sicrhau buddugoliaeth gyffyrddus i Gaerdydd.

Mi rydw i wedi nodi'r tri diwrnod yma yn fy nyddiadur ar gyfer y tair blynedd nesaf, meddai.

Dyna'r tair chwaer a fu gennyf, Jess, Dol a Fflos, ac erbyn hyn Fflos yn unig sydd yn fyw; ac y mae hi mor annwyl ag erioed.

Bydd tair awr ar ddeg ar awyren Cathay Pacific wrth hedfan o Heathrow wedi rhoi cyfle i sylwi ar y penawdau yn y South China Morning Post.

Dydy ond tair oed a dydy o ddim yn deall.

Mae wedi bod yn gred gyffredinol ers rhai blynyddoedd fodd bynnag fod tanio tair sigare/ t gyda'r un fatsen yn anlwcus iawn.

Mae tair ffordd y gall egni gael ei ddefnyddio gan y corff: (a) Egni a ddefnyddir ar gyfer 'gwasanaethau hanfodol' e.e., curiadau'r galon, cynhyrchu gwres er mwyn cynnal tymheredd y corff.

Roedd tair gôl Welton - dwy berl yn eu plith - yn allweddol.

Byddai raid i Bush ennill y tair talaith yma pe bai Gore yn ennill Florida.

Yn ystod y tair blynedd ar ddeg ddiwetha daeth mwy a mwy o Gymry i weld bod hyn yn ddifyg sylfaenol, a dyma ran fawr o'r esboniad am yr alwad y dyddiau hyn o blaid trosglwyddo cyfrifoldebau Ysgrifennydd Cymreig i Gynulliad Cymru.

Tasg anos na'r tair arall?

Erthygl Saunders Lewis sy'n sefyll allan o blith y tair, er eu bod oll yn rhyfeddol o ffres o'u cymharu a'r rhan fwyaf o newyddiaduraeth wleidyddol hanner cant oed.

Mi fyddai'r grym yn dal yn styc ar y top ac mi fyddai'r trydydd o'r tair carfan yna enwais i yn gynharach yn dal i drïo dyfalu lle aethon ni'n rong.

Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw chwarae'r gemau hyn i gyd erbyn Mehefin 2 - tair gêm yr wythnos.

Y tair cyntaf a ddiflannodd oedd Wmffra, Elias Jôs, a Beti Bwt.

Mae'r tair pennod olaf yn hynod fywiog ac yn amlwg yn dangos lle mae gwir ddiddordeb yr awdur.

Yr oedd tair ar ddeg o eglwysi prebendari yn perthyn i Landdewi Brefi: Llangybi, Llanbadarn Trefeglwys, Llanfihangel Ystrad, Carrog, Llannerch Aeron, Llanwenog, Blaen-porth, Betws, Llanbadarn Odwyn ger Llwynpiod, Llanboidy, Tre-lech a'r Betws, Llanarth a Thregaron.

Cyn ei araith cyhoeddodd Eritrea ei bod wedi saethu i lawr tair awyren ymladd.

Pan ddaw'r amser i fedyddio'r baban, a'r cwmni'n nesau at y ffynnon, fe neidia'r plentyn o freichiau'r wraig sy'n ei gario, fe gyrraedd y dŵr mewn tair naid ac ymdrocha ynddo ar ei ben ei hun.

Daeth y tair wythnos i ben gydag ymweliad â Phorth Madryn - profiad swreal.

Hwy a aeth o gwmpas yr ysgolion dyddiol yn y tair sir, a'u holiaduron yn barod yn eu dwylo, gan gasglu atebion yn uniongyrchol gan yr athrawon a'r '...' .

Roedd Nixon McLean wedi cipio tair wiced yn ystod y bore.

Pa fodd y rhowch chwi gyfrif am eich tenantiaid truain?" Yn yr un ysbryd, gadawodd Wroth elw tair acer o dir a brynasai ym mhlwyf Magwyr i fod yn rhodd flynyddol i ddeuddeg o dlodion Llanfaches.

Tair ceiniog oedd pris y llyfrynnau fel arfer, ond mae'n anodd iawn gwybod sawl copi o bob rhifyn a argreffid.

Ildiodd Gadaffi i demtasiwn, fodd bynnag, a cheisiodd ddenu tair ohonyn nhw i'w wely.

Ethol tair merch yng Nghymru: Megan Lloyd George, Irene White a Dorothy Rees.

Nawr, roedd ganddyn nhw lolfa, ystafell fwyta, tair ystafell wely, cegin a thy bach.

un, dwy, tair, pedair, pump cadair.

Tra'r oedd arweinwyr y tair plaid Brydeinig yn dod i'n haelwydydd sawl gwaith bob dydd, doedd dim sôn am Blaid Cymru o gwbl.

Dylid ystyried y cwestiwn hwn mewn tair ffordd.

Wrth raddio datblygiad cwrs, symuder yn gyntaf o fewn y tair elfen hanfodol bob amser.

Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.

Doedd yno ddim ond chwarel, tair ffarm a stesion gwylwyr y glannau.

Fel y gwelir ar y mapiau, plwyf tair anglog cymharol fychan o ryw bedair mil o gyfeiriau yw Llangwyryfon, ac y mae'r stori hon amdano yn cyfeirio yn rhannol hefyd at y pum plwyf sy dros y ffin iddo.

Tair blynedd yn ôl yr oedd Jaques Chirac yn gobeithio agor y drws i Wlad Pwyl, i Ungaria ac i'r Wladwriaeth Czech erbyn 2000.

Rhaid datblygu partneriaeth rhwng ysgolion babanod a iau a'r ysgol feithrin gan bod y broses datblygol wedi hen gychwyn yn y plentyn tair a phedair oed.

Dyna i chi ymlyniad pregethwyr, llenorion ac athrawon y tair canrif ddiwethaf at yr iaith, meddai.

Gyda cynhadledd pob plaid ond yn parhau am wythnos does neb wedi egluron iawn pam y maen rhaid i bob aelod unigol gael tair wythnos i fynychu ei gynhadledd.

Ond y mae un nodwedd yn gyffredin i'r tair elfen hyn, sef mai canu cymdeithasol ydyw gan fwyaf, a'r beirdd unwaith yn rhagor, fel eu rhagflaenwyr yn y ddeunawfed ganrif, yn canu i ddigwyddiadau'r fro a'i phobl.

Taith hir a blinderus - tair awr i gyrraedd i Caserta.

tair fflach .

Ers tair blynedd mae'r colegau addysg bellach ac uwch wedi bod yn cydweithio ar y cynllun.

Tair neu bedair awr i fynd.

Tair rhaglen radio mewn tair wythnos - dyna nod Dafydd Du pan aeth i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn ddiweddar.

Dywedir bod gyrrwr yr Irish Mail yn troi'r ager ymaith dair milltir cyn cyrraedd Caergybi, a gallem feddwl am rywun o fewn y tair milltir hynny, wrth ei weld yn mynd heibio'n urddasol, yn ddi-ager a di-stwr, yn ymfalchio ynddo o'i gymharu â'r trenau bach a byffia heibio, heb wybod mai sefyll o anghenraid fydd ei hanes cyn bo hir, mai yn~ n~m y ~allu a drowyd ymaith yr â hyd yn oed

Roedd y tair mil o bobl liw a addolai yn eglwys Mr Henrickse yn gorfod gadael eu heglwys a'u cartrefi a mynd i dref newydd - tref i bobl liw yn unig.

Mae gen i record o Martin Luther King yn traddodi tair neu bedair o'i areithiau mawr.

Dyma'r adeg i blannu planhigion ysgewyll Brwsel yn yr ardd agored gan adael tair troedfedd rhwng pob planhigyn a'r un gofod rhwng y rhesi.

Tair blynedd yw'r cyfnod hwyaf ar gyfer unrhyw un project.

Tair ar ddeg.

I Agra ymhen tair awr, a chael fy nal gan ddyn tacsi sy'n cynnig gofalu amdanaf trwy'r dydd, am bris rhesymol, rhaid cyfaddef, am fod y bobl sy'n arfer rhedeg bysiau i'r Taj wedi mynd ar streic.

Hefyd, gellir teneuo planhigion tomatos drwy eu plannu'n unigol mewn potiau tair modfedd cyn eu caledu.

Bu tair rhan i'r ymgynghori.

Wedi blino'n lân ar ôl cael tair gwers gyda phob gwers yn awr a hanner.

Mae Taylor, a arweiniodd Gillingham i'r Adran Gyntaf, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb.

Ac yma yng Nghymru fe ddylai Llywydd y Blaid gael lle cymharol i'r hyn mae arweinwyr y tair plaid yn el gael.

Mae wedi bod ar Bwyllgor Rheoli'r Gymdeithas ers tair mlynedd a hanner ac yn ogystal a bod yn Drysorydd, mae'n Gadeirydd yr Is-Bwyllgor Adnoddau a Chyllid.

Ond wrth gwrs dwg unrhyw gyfnewid fel hyn ei broblemau, ac yn fuan cafwyd cyfres ohonynt, a bu rhaid penderfynu ynglŷn a thri pheth hanfodol, tair sialens y bu rhaid eu ,hwynebu.

Tair blynedd yn ddiweddarach arunigwyd yr elfen ymbelydrol naturiol uraniwm (U) gan Pierre a Marie Curie.

Fe ddylai'r lobelia, ffwsia, Begonia semperflorens a mynawyd y bugail fod yn tyfu'n dda yn eu potiau tair modfedd.

Ymhen tair blynedd fe'i symudwyd gan yr Esgob William Hughes o Lanelwy i ficeriaeth y Trallwng yn Nyffryn Hafren, symudiad a sicrhaoddd mai yn esgobaeth Llanelwy y gwnâi ei waith mawr, ffaith ddigon eironig o gofio gwrthwynebiad cynnar yr Esgob Hughes, fel rhyw fath o 'enfant terrible' yn yr Eglwys ar y pryd,i gael Beibl Cymraeg o gwbl.

Gellir gadael y gweddill, sydd i'w plannu maes o law yn yr ardd agored, yn y potiau tair modfedd a'u caledu.

Mae'r tair lefel uchaf yn rhagdybio defnydd o'r ddwy sylfaenol hyn ac yn eu cwmpasu.