Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

talp

talp

Y peth traddodiadol i'w wneud mewn pasiantau ac operâu roc yw cyflwyno talp o hanes ardal - am arwyr y gorffennol, am ddigwyddiadau cynhyrfus neu stori'r oesau.

Cyn leinio muriau a nenfwd y twnnel â briciau, byddai rhywun yn cerdded drwy'r twnnel cyn i bob trên chwyrnellu drwyddo, i'r diben o wneud yn siwr nad oedd talp o graig wedi disgyn ar y trac.

Mae 'Gyda'r Nos Ar O^l Glaw' yn enghraifft ardderchog: yr awyr a'r tir, heb bobl nac adeilad yn y golwg, yn llawn symud ac awyrgylch; yr haul yn torri trwy dduwch cwmwl sydd fel talp o fynydd ar y gorwel.

"Rydw' i'n ddigon prysur rŵan," meddwn i, ar frys, ac yn anghwrtais ddigon er nad oedd yna ddim adwaith oddi wrth y talp o geuled o'm blaen i, "Dodrefnu'r fflat a phrynu celfi newydd, ac atgyweirio a diweddaru a newid tipyn ar y lle hefyd." "Yn wir," meddwn i, a dim ond prin gymryd anadl rhwng dwy frawddeg, "Mae'r pentiwr acw heddiw yn gorfffen addurno'r stafell fyw i mi." Ond nid oedd dianc i fod.

Faddeua i byth i fi fy hunan am beidio a chofio a chofnodi talp o hanes cymdeithasol a aeth i ddifancoll yr eiliad y syrthiodd Evan Jones yn farw wrth groesi o'r siop i'r blwch ffon yr ochr draw i'r hewl.