Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tamaid

tamaid

Nid tamaid i aros pryd mohono, mae addysg feithrin o safon yn cyfoethogi datblygiad y plentyn cyfan ac fe all gyfrannu at godi safon ei berfformiad academaidd cyffredinol.

Tamaid o swper fyddai hi wedyn, a noson arall i gyfeiliant sŵn teipio tan y bore bach.

Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.' Atebodd yntau hwy, 'Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.' Meddent wrtho, 'A ydym i fynd i brynu gwerth ugain punt o fara a'i roi iddynt i'w fwyta?' Yr Arglwydd Iesu, yn ôl adroddiad Ioan, a gymerodd y cam cyntaf yn y sefyllfa ddyrys trwy ofyn i Philip: 'Lle y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?' Amcangyfrifodd Philip, y Swyddog Bwyd, debyg, ymhlith y deuddeg, y byddai eisiau o leiaf werth ugain punt o fara i roddi tamaid i bob un.

'dydi o ddim tamaid o wahaniaeth genny am y Sofiet.

Meddyliais am fy nhŷ gwag; fawr o ddim yno ar wahân i ddau wy, tamaid o gaws a choffi du i swper, a'r awydd i fwyta mwy ond heb yr hawl i wneud hynny.

Mae'n ymddangos fod Syr Simon a Ledi Gysta yn arfar cnoi pob tamaid ddeng waith a thrigain cyn ei lyncu.

Ond wedi darllen pennod Mr Steffan Griffith ar achau Waldo, meddyliais nad anniddorol fuasai cyfeiriad neu ddau at rai o aelodau'r teulu nodedig hwn fel tamaid i aros pryd.

Wedi i ddwy fuwch a dynewad a llo fod yn y beudy trwy oerni'r hirlwm, erbyn dechrau Ebrill, mi fyddai'r tamaid awyr fyddai i'w weld trwy'r drws o'r beudy dros ben y domen yn mynd yn llai ac yn llai a'r llwybr i basio rhwng y drws a'i godre yn mynd yn gulach ac yn gulach.

Twt, mi fyddwch chitha yn falch o gal tamaid yn barod yn y meinjar 'dwy'n siŵr." "Wel os cyrhaedda' i y meinjar ynte." "Dowch.

Rhyfedd yr ymgeledd a gafodd dynion drwy'r oesoedd gan y gwragedd: Dyma air o un baraita Iddewig hen, hen: "I bob creadur a arweinir y tu allan i'r porth i farw, fe roddir tamaid bach o fygarogl neu sbeis mewn cwpanaid o win i drymhau a marweiddio'r synhwyrau ......

Rhaid i rywun gynnal rhyw fath o fywyd a gwneud tamaid i'w fwyta, er mor wael oedd Jonathan druan.

Am dri mis a mwy wedi ymsefydlu yn Llangynin, bu Euros a'i frawd iau, Trefor, yn ennill eu tamaid yn dal a gwerthu cwningod.

Wedi'r cyfan, y mae ffyrdd haws o ennill eich tamaid, onid oes?

Bu rhwyg o'r tu mewn i ran uchaf ei drowsus ers pythefnos heb iddo geisio rhoi tamaid o edau ar ei gyfyl.

Tamaid o'r sponge 'ma, Mr Ifans?

Mae'r tri yna fel locustiaid yn llowcio pob tamaid sydd o'u blaenau nhw.

Erbyn iddynt fwyta eu sosej a'u sglodion a'u hufen iâ bob tamaid a mynd i'r lle chwech efo Owain ac i'r ystafell newid clytiau efo Guto, roedd awr a hanner wedi mynd heibio er pan adawsant y car, ac yr oedd Carol ar bigau'r drain yn poeni am Emyr ar ei ben ei hun yn tŷ yn pryderu amdanynt hwythau.

'Taswn i'n dy le di, del,' meddai'r swyddog yn fychanus, 'mi faswn i'n ei throi hi'n ôl i chwarae hefo dy ddolia achos dim ond tamaid io aros pryd fasa peth fach tlws fel ti i Caligwla fan hyn, yntê, 'ngwash i?' meddai wrth yr hyllgi glafoeriog o flaen Elen.

Methodd yn lân â bwyta yr un tamaid.

'Tyd, tamaid o'r deisan gwsberis 'ma,' meddai Emrys, gan wthio cyllell o dan ddarn ohoni.

Penderfynais yn y fan a'r lle y byddwn i'n gadael rhan o'r pryd bwyd nesaf ar ochr fy mhlât er mwyn i Mam boeni tipyn 'mod i'n sâl, ond pan ddaeth amser swper o'r diwedd roeddwn i ar lwgu ac mi lyncais bob tamaid.

Dewch i'r gegin i gael tamaid cyn mynd i orffwys,' meddai Pierre.

Hyfryd ydyw cael eistedd yn dawel ar lan afon neu lyn, a gweld y pysgod yn codi i ddal y clÚr, a'r adar, ar adenydd chwim, yn cystadlu â hwy i ddal y tamaid blasus.