Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tanfor

tanfor

Gan fod llawer o'r offer a ddefnyddir i wneud arolwg tanfor ar hyn o bryd yn ddigon anfoddhaol, gellir dweud fod archaeoleg tanddwr mewn stad o 'anwybodaeth soffistigedig' - soffistigedig gan fod llawer o'r archaeolegwyr modern yn bustachu gyda phroblemau ei lleihau.

Nid peth newydd yw diffinio'r pwnc fel hyn gan gyfeirio at fframwaith gwyddonol; cyfeiriwyd at y pwnc fel hyn yn y lle cyntaf gan chwilotwyr tanfor ym Môr y Canoldir a chysylltir yr agwedd hon â gweithiau Diole\ yn bennaf.

ôl safonau'r llu gwyddorau sy'n cyfrannu tuag at astudiaeth o amgylchedd tanfor.

Argymhellir y diffiniad canlynol ar gyfer dibenion y papur hwn, sef bod archaeoleg môr yn wyddor, lle cyfunir sawl disgyblaeth gan geisio cynyddu ein gwybodaeth am weithgareddau morwrol dyn drwy archwilio gweddillion llongau a safleoedd tanfor.

Mewn arolwg diweddar a wnaed o'r pwnc cododd Martin a Flemming y cwestiwn 'A yw eu darganfyddiadau yn rhoi hawl gwirioneddol i archaeolegwyr tanfor eu galw eu hunain yn archaeolegwyr?' Er mwyn ateb y sialens hon yn effeithiol rhaid pwyso a mesur y dulliau a ddefnyddir heddiw mewn archaeoleg môr yn ôl y meini prawf a dderbynnir gan archaeolegwyr modern, a hefyd yn

Ar wahân i'r dirgelwch a'r rhamant sy'n gysylltiedig â llongddrylliadau ac yn gymhelliad i ddenu pobl ifanc i astudio gweithgareddau tanfor, gall safleoedd llongddrylliadau ddangos imi sut y mae grymusterau naturiol dros gyfnod penodol o amser yn lleihau effaith llongddrylliadau ar lawr y môr.

Yn y pumdegau cynnar 'roedd diddordeb mawr mewn gwyliau chwilio am drysor ac o ganlyniad cafodd archaeoleg môr y ddelwedd o fod yn bwnc llawn melodramatics tanfor lle cesglid pethau od.

Nod yr archaeolegydd tanfor fydd cael hynny o wybodaeth sy'n bosibl ei chael o safle, gan gynnwys gwybodaeth am y modd y newidir gwrthrychau gan brosesau amgylchedd tanddwr yn ogystal â gwybodaeth am ddata hanesyddol.

Y mae deall sut y mae llong â'i phen wedi ei blannu yng ngwely'r môr yn gallu gwrthsefyll grymusterau organig a mecanyddol yn dal i fod yn gryn ddirgelwch ond yn ddirgelwch, pe'i datrysir, sy'n rhwym o ddweud cymaint am yr hyn a ddigwydd i beirianwaith tanfor diwydiannau y dyfodol ag am draddodiadau morwrol y gorffennol.