Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tangnefedd

tangnefedd

Yn erbyn cefndir yr ymgyrch hon y clywn ei lais yn galw ar ddynion i gymryd i fyny'r groes a'i ddilyn - anogaeth sydd ar y naill law yn eu cyfarwyddo i gerdded ffordd tangnefedd ac ar y llaw arall yn eu gwahodd i gyfranogi o ddioddefaint y Selotiaid yr oedd eu cyrff meirwon weithiau i'w gweld ar groesbrennau mewn mannau amlwg ym Mhalestina.

Dafydd Wigley oedd y cyntaf i darfu rhywfaint, diolch byth, ar y tangnefedd gyda chais ymosodol am ddatganiad ar y sefyllfa ddiweddaraf i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer cronfeydd Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.

Rho ras i ninnau geisio ymochel dan gysgod dy adain a gwneud hynny pan fo hi'n hindda fel, pan ddelo'r storm, y cawn orffwys mewn tangnefedd.

Oedwch yn y tangnefedd tawel ar brynhawn o aeaf fel y gwnaethom ni, i weld yr haul yn suddo'n belen eirias dros benrhyn Llyn, mynyddoedd yr Eifl yn borffor dywyll, a'r eira'n eisin pinc ar gopaon Eryri.

Wrth droi ei wyneb tua Jerwsalem yr oedd yn ymroi i ymgyrch Teyrnas y Tangnefedd, yr Israel newydd.

Byddai'n traddodi'r fendith yn Gymraeg o dro i dro ar ddiwedd gwasanaeth; ond câi drafferth i ynganu'r gair 'deall', a'r hyn a glywai'r gynulleidfa fyddai nid 'Tangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall' ond 'Tangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob dial'!

Yn sydyn chwalwyd y tangnefedd gan sŵn brawychus.