Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tanio

tanio

Beth oedd i rwystro llu o rai tebyg iddo yntau, a digon o fenter busnes neu syniadau pensaerniol yn eu pennau, neu lygad am olygfa dda, rhag cael eu tanio i weithredu 'run fath, nes i bob hafod a llety o Gaerfai i Gilgerran gael ei drawsnewid?

Brwydr gyntaf yr Undeb oedd gwrthwynebu troi 16,000 erw yn Epynt yn faes tanio.

Y llongau rhyfel yn tanio eu gynnau er cof am y rhai anffodus a fu farw dros eu gwlad yn y Rhyfel.

Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.

Ar y ail chwythiad o'r corn roedd pawb yn tanio'r fuse ac yn mynd yn bur frysiog at y dynion eraill i wardio.

Mae wedi bod yn gred gyffredinol ers rhai blynyddoedd fodd bynnag fod tanio tair sigare/ t gyda'r un fatsen yn anlwcus iawn.

Wedi tanio'r garreg yr oedd gwaith malu arni wedyn.

Gyrrodd i fyny at Cefnbryn Isaf, ac egluro i David Lewis a'i wraig Anne fod Adran Ryfel y Llywodraeth yn bwriadu meddiannu'r ardal ar gyfer ymarfer tanio.

Un o'r cysylltiadau hyn yw Sylvia, merch o Ariannin sy'n tanio brawddegau Sbaeneg yn gyflymach na kalashnikov.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill roedd Ioan Gruffudd yn tanio coelcerth Mileniwm Caerdydd.

~r ôl caniad, pan *ddai pawb nad oedd a wnelont â'r saethu, wedi mynd adref, neu ar brynhawn Sadwrn, y byddai'r tanio'n cymryd lle fel rheol.

Roedd yn angenrheidiol, meddai, i'r milwyr gael lle i ymarfer tanio'u magnelau mawrion cyn mynd i ryfel, ac roedd blaenau cymoedd ac ucheldir Epynt yn ddelfrydol ar gyfer ymarferiadau o'r fath.

'Roedd y bryddest yn cyfeirio at y dioddef a welwyd ar fwrdd y Sir Galahad, ac yn gresynu fod pobl o'r un hil, o Gymru ac o Batagonia, yn tanio ar ei gilydd.

Roedd dawnswyr Ystalyfera a Nantgarw yn sboncio'n osgeiddig, a Gynau Mawr Glyndwr, Meibion Llywarch, Cymerau ac eraill yn tanio o bob cyfeiriad.

Yn eu plith roedd hyd yn oed lond blwch o sbringiau o wahanol faint a chyda hwy llwyddodd y gof i adnewyddu hen ynnau nad oedd wedi cael eu tanio ers deng mlynedd neu ragor.

Dysgodd gywiro gynnau, a daeth hyn yn rhan bwysig a diddorol o'i waith: gweithio morthwylion i hen ynnau deuddeg bôr a defnyddio pinnau i sicrhau gynnau oedd yn rhy sigledig i hyd yn oed y Bedwin mwyaf beiddgar fentro eu tanio.

Ac mi faswn i wrth fy modd yn tanio'r ffiws." "Oes modd cael gair a'r bachgen?" gofynnodd Snowt.

Draw ymhell yng nghanol y mynyddoedd, roedd gynnau'n tanio; gallem glywed eu swn yn cystadlu â thrwst y taranau glaw.