Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tanlinellu

tanlinellu

argymhellodd y gweithgor y dull hwn o weithredu fyddai yn tanlinellu gwerth thema gyffredin.

Mae'r ddau achos yma unwaith eto yn tanlinellu'r ffaith nad yw'r Gymraeg yn gyfartal â'r Saesneg yng Nghymru, a hynny er gwaetha'r ffaith bod y Ddeddf Iaith wedi'i phasio ers dwy flynedd.

Gwelir oddi wrth yr hyn a ddywedir droeon am bobl Dduw yn llyfr Deuteronomium fel y mae'r syniad hwn yn tanlinellu arbenigrwydd cenedl Israel:

Peidiwch a defnyddio tanlinellu, dyma'r unig ffordd oedd ar gael ar deipiadur i wahaniaethu testun, ond gyda dulliau cyfoes o brosesu geiriau mae digon o ddulliau eraill ar gael.

Amlygir hynny yng nghwpled Siôn Mawddwy sy'n tanlinellu'r cyd-fyw diddan rhwng gŵr a gwraig a thad a mam dan yr un gronglwyd.

Onid yw amrywiaeth profiadau y dynion hyn yn tanlinellu pwysigrwydd y profiad unigol?

Er mai gwirion iawn fyddai dadlau nad oes yna unrhyw berygl yn deillio o'r defnydd a wneir o'r fath belydriad, dylid tanlinellu'r ffaith fod yna ochr arall i'r stori.

Y mae'r ffaith fod rhai beirniaid yn dal i deimlo rheidrwydd i daranu yn erbyn ffuglen yn tanlinellu ffaith arall, sef bod yr arfer o ddarllen nofelau Cymraeg a Saesneg wedi eu hen adael ar ôl.

Mae'r ffaith bod y carfannau yma wedi uno - er eu bod fel arfer yng ngyddfau ei gilydd - a'u bod wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd, oriau'n unig ar ôl i aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod yn dosbarthu taflenni i staff y Cyngor ddydd Iau diwethaf yn tanlinellu pa mor sensitif yw'r mater yma.

Mae'n werth tanlinellu arwydddocâd y ffaith fod cysylltiadau cydwladol Charles yn ei alluogi i droi at yr union bobl a allai helpu.

Effaith gweithgarwch hereticiaid fel y Waldensiaid a'r Lolardiaid a'r Hussiaid oedd tanlinellu ofnau'r awdurdodau o ddyddiau Innocent III i lawr at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd mai rhwygo undod a dysgeidiaeth a magu annisgyblaeth a gwrthryfel a ddeilliai o roi rhyddid i leygwyr ddarllen yr Ysgrythur.

Mae'r ffaith bod y carfanau yma wedi uno - er eu bod fel arfer yng ngyddfau ei gilydd - a'u bod wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd, oriau'n unig ar ôl i aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod yn dosbarthu taflenni i staff y cyngor yn tanlinellu pa mor sensitif yw'r mater yma.

Ond erbyn gweld, tanlinellu" ddylsai'r gair fod - ond "roedd pawb wedi deall.

Mae bwrlwm a thensiwn y diweddglo - cleimacs treisiol a dadlennol - yn gwrthgyferbynnu (ag felly yn tanlinellu) arafwch rhai darnau o'r llyfr.

Mae hefyd yn tanlinellu'r ofn fod i Islam apêl wleidyddol i ddynion sy'n erfyn dihangfa o'r chwalfa economiadd.