Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tanllyd

tanllyd

Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.

Os astudir rhannau hynaf y blaned Goch fe sylwir ar olion sianelau afonydd yn ymdroelli hyd-ddynt a gellir ei dyddio'n ôl i adeg y mynyddoedd tanllyd actif.

'Dwi'n siwr fod ei gyfansoddiad o fel mynydd tanllyd eiliadau cyn ffrwydro.

Yn y cyfamser, trodd ein sgwner i gyfeiriad bae bychan ar ynys y tu ôl i'r mynydd tanllyd roedden ni newydd ei ddringo.

Clywais ddweud y bu hwn yn fynydd-tanllyd unwaith a bod ei greigiau lliwgar yn profi hynny.

Bryd hynny lledodd ceudwll y mynydd tanllyd dros ddeugain milltir sgwar ar un ochr i'r ynys.

Y ffwrnesi mawrion a'u geneuau aethus yn chwydu allan golofnau mwg a fflamiau troellawg cymysgedig a gwreichion i'r nwyfre, ac megys o dan ei seiliau yn tarddu allan gornentydd tanllyd o feteloedd yn llifo i'w gwelyau, y peirianau nerthol yn chwythu iddynt trwy bibellau tanddaiarol fel pe bai diargryn wedi talu ymwdiad a'r dyffryn .

Gweld dinas Akrotiri, y bu archaeolegwyr yn ei dadorchuddio o'r lafa folcanig er 1967 gan ddangos yn eglur sut yr oedd yr ynyswyr yn byw 1,500 o flynyddoedd Cyn Crist, pan ffrwydrodd mynydd tanllyd a llyncu rhannau o'r ynys yn gyfan.

Amser cinio cyn y gêm yn erbyn Lloegr cawsom y bregeth fwya tanllyd y gallech ddychmygu ganddo.

Y grêd bresennol yw i'r cefnfor hwn ail-lenwi sawl tro yn ystod cyfnod diweddarach yn hanes Mawrth ac fe seilir cred o'r fath ar sylwadaeth o ddyffrynnoedd afonydd ar gledr mynyddoedd tanllyd mwy diweddar.

Trodd y llygaid tanllyd ato.

Sylwyd hefyd ar sianelau all-lifeiriant gymaint â deg cilomedr o led yn driphlith driphlith hyd lethrau'r mynyddoedd tanllyd a hyd yr iseldiroedd yn ogystal ac y mae'n debygol i'r rhain gael eu ffurfio pan doddodd rhew y Twndra yn sydyn gan adael ceulannau ar ei ôl.