Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tanseilio

tanseilio

Ac er bod y mwyafrif yn dal i drochi eu defaid mae'r ychydig sy'n methu gwneud hynny yn tanseilio'r ymdrechion hynny ac yn lledaenu'r clefyd.

A phwyso ar ei gilydd fyddai llawer o'r tai yno, am fod yr hen weithfeydd glo wedi tanseilio cynifer o adeiladau.

Ni fydd hyn yn tanseilio hawl ein celloedd lleol a'n rhanbarthau i drefnu ymgyrchoedd i amddiffyn buddiannau cymunedau lleol yn ogystal â chefnogi ymgyrchoedd canolog yn yr ardal.

Fe fydd hefyd yn tanseilio hygrededd Cristnogion gerbron y byd ac yn y pen draw fe fydd yn dwyn anfri ar Dduw.

Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.

Un o nodweddion Dyneiddiaeth oedd dechrau tanseilio'r hen gred fod y bywydsawd yn gread i'w ddeall yn ôl dysgeidiaeth Tomos Acwin fel priodas rhwng Natur a Gras.

Treulir braidd ormod o amser ar ddechrau'r bennod hon i gyfleu ymateb diddeall y plant i'r degwm, a hynny i raddau helaeth er mwyn creu digrifwch, sydd yn tanseilio difrifwch y digwyddiadau a ddisgrifir wedyn.

Yr un oedd nawr yn bygwth tanseilio'r fuddugoliaeth fawr trwy ymuno yn y gwrthryfel newydd yma.

Ar y llaw arall, y mae diffyg ymwybyddiaeth, hyd yn oed difaterwch yn arwain at ddiffyg hyder, sydd yn ddi-gwestiwn yn tanseilio cynnydd.

Yn ail, ei bod yn amherthnasol ac yn wir yn anfoesol, mabwysiadu polisi%au i warchod yr amgylchfyd os ydynt yn tanseilio gobeithion y tlawd a'r anghennus (yn unrhyw wlad) am hanfodion bywyd gwâr, sef bwyd llesol, cartref clyd a dillad addas, parch cymdeithasol, gwaith, a gwarchodaeth rhag gorthrwm.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, yr Arglwydd Robertson, wedi wfftio honiadau bod cynlluniau'r Undeb Ewropeaidd i greu eu llu milwrol eu hun yn tanseilio dyletswyddau a dylanwad NATO.

Mewn llythyr at Nick Bourne AC (Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Torïaid i atal eu rhagrith o roi cefnogaeth mewn geiriau i ysgolion gwledig tra bod eu polisïau yn eu tanseilio.

Yr oedd gwneud y fath hawl, wrth gwrs, yn mynd at wreiddyn a sylfaen y berthynas rhwng Cymru a Lloegr, yn tanseilio'r berthynas honno, ac yn gosod i fyny deyrngarwch newydd yn lle'r teyrngarwch i'r wladwriaeth Brydeinig y disgwylid i bob Cymro, fel pob Sais, ei roddi a'i arddel yn rhinwedd ei ddinasyddiaeth.

Oddi ar 1988 caniatawyd sawl datblygiad newydd a barodd tanseilio amryw o gymunedau Cymraeg eu hiaith oherwydd gwendidau Cylchlythyr 53/88.

Ar y dechrau un, roedd nifer o aelodau a oedd yn wrthwynebus i'r iaith yn codi helynt fod y cyfieithu ddim yn gywir er mwyn tanseilio defnyddio Basgeg yn Senedd.

Mae'n tanseilio holl egwyddor annibyniaeth.'

Mae rhai pobol yn honni fod y ffaith fod Mr Morgan yn Brif Ysgrifennydd ac yn Ysgrifennydd Datblygu Economaidd yn tanseilio hyder y gymuned fusnes.

Aeth pethau rhagddynt yn ddigon annwyl a chyfeillgar er i Alun Michael ddweud fod Peter Hain wedi tanseilio" pwysigrwydd gwella ffyrdd y Rhondda mewn ateb i gwestiwn Cymraeg gan Geraint Davies, yr aelod dros gwm enwocaf Cymru.