Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tasai

tasai

Erbyn hyn roedd y sŵn wedi peidio a dyma edrych drwy ffenest y gegin a gweld fod y lle fel tasai byddin o lager louts wedi bod drwyddo.

Dywed y capten dros dro, Adrian Dale, y byddai'n hwb mawr i'r tîm tasai James yn gallu wynebu Gwlad yr Haf yng Nghaerdydd yfory.

Mae sibrydion bod chwaraewr canol-cae Cymru, Craig Bellamy, am symud o Coventry - tasai'r clwb yn disgyn o'r Uwch-gynghrair ddiwedd y tymor.

'Tasai rhywun yn ceisio fy mygio i, mi faswn i'n gwasgu ei beli o nes y basen nhw'n slwj.' Dyna fyddai ei eiriau.

Bydden nhw'n disgyn o'r brif adran ddiwedd y tymor hwn, a tasai clwb o'r Alban yn cymryd eu lle nhw y tymor ar ôl nesa, fe fyddai yna deimlad - cyfiawn, o bosib - bod rygbi'r Alban yn cael ei hybu ar draul rygbi Cymru.

basai'n beth trist, yn drychineb yn wir, tasai sgrifennu yn y dull realaidd o bryd i'w gilydd yn mynd yn infra dig.