Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tasat

tasat

'Da, 'ngwas i, tasat ti ond yn ca'l dy dderbyn yn bregethwr cynorthwyol, William, fath â dy daid ers talwm.' 'Ydi'r cur pen yn well, Mam?' 'Dipyn bach.' 'Mi wna i banad bach o Ofaltîn i ni'n dau cyn mynd a mi fedrwch chi fynd i'ch gwely'n reit handi wedyn.'

A tasat ti'n mudo i le fel Bangor, dywad, dwyt ti'n nabod neb bron yn fan'no.

Gan Catrin Owan y cawn frechdan wrth ddwad adra o Ysgol Llanrhuddlad, cyn wynebu'r tair milltir trwy'r caeau am Frynteg lle'r oeddem yn byw.A dyna fyddai Catrin Owan yn ei ddweud wrtha'i bob dydd, 'Tasat ti yma ddoe mi fasat wedi cael jam arni!'.