Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tasg

tasg

Tra yno, gweithiodd yn galed iawn i ennill diploma'r Llyfrgellwyr, - yr A.L A., trwy gyfrwng Cwis Cyfathrebu ac Ysgol Haf Birmingham, - tasg enfawr, a gymerodd flynyddoedd i'w chwblhau.

Fe âi ati yn bwyllog a threfnus i gynllunio ar gyfer y pedair tasg.

Dyw tasg y gohebydd ddim yn gyfyngedig chwaith i egluro pwy yw pwy yn y lluniau hynny, fel y gall y gwyliwr cul ei feddwl ddathlu ergyd sy'n taro'r gelyn a thrista/ u pan fo'r un darlun o alanast a dioddefaint yn digwydd dilyn ergyd a drawodd un o'n `bechgyn ni'.

Pedair tasg y mae'n rhaid i ti eu cyflawni.

Eich tasg

Byddwn yn galw am Ddeddf Iaith newydd ac yn gofyn am Grwp Tasg i arolygu a chydlynnu y cyfieithu yn y Cynulliad.

Pedair tasg.

Eich tasg yw dod i wybod am wahaniaethau fel hyn yn yr ardal lle rydych yn byw.

Astudiaeth fanwl o'r corff dynol fu ein tasg am y ddwy flynedd gyntaf a golygai hynny ein bod yn treulio tri mis llawn efo gwahanol rannau o'r corff.

Tasg hawdd oedd hynny!

Tasg anos na'r tair arall?

Tasg PDAG yw hwyluso datblygu addysg yn Gymraeg gan yr holl asiantau statudol ac annibynnol a fedr gyfrannu at y ddarpariaeth.

Ond fe welir nad ydyw'n bosibl dod o hyd i Gostau Tasg drwy gyfrwng y cyfrifon ariannol.

Yr oedd tasg anferth o fawr o flaen y pwyllgor; trefnu ymgyrch trwy bob rhan o Gymru i oleuo ac addysgu a chreu argyhoeddiad ac at hyn trefnu'r gwaith manwl o fynd a ffurflen y Ddeiseb o dŷ i dŷ, nid yn y pentrefi Cymraeg yn unig ond hefyd yn yr ardaloedd poblog a Seisnig yn Sir Fynwy (Gwent erbyn hyn), Morgannwg a mannau eraill.

O ie, y gosb am ein twyllo, fe ddylen ni sôn am hynny' 'Cosb am dwyllo?' 'Ie, os byddi di'n cymryd arnat dy fod wedi cyflawni tasg, ond heb neud hynny, mi fydd yna gosb.' 'A be fydd honno?' 'Sypreis, was.

Nid oedd yn chwennych y daith drwy'r gwyll i'r fferm chwaith, ond tasg i'w chyflawni yn y nos ydoedd, y nos oedd yr amser i herio galluoedd y tywyllwch.

Tasg wirioneddol anodd yw crynhoi pymtheg canrif o hanes i ddeuddeg tudalen a thrigain.

Tasg Ioan a Rhian ydy dewis y straeon gorau a'r rhai fydd o'r diddordeb mwya i bobl ifanc.

Eu tasg nhw oedd ein darbwyllo ni fod uwch-gynhadledd Genefa er enghraifft wedi bod yn un hanesyddol er mai dim ond mân gytundebau diwylliannol a gwyddonol a gafodd eu harwyddo gan y penaethiaid.

Tasg anodd fodd bynnnag ydyw crynhoi dylanwad hinsawdd, tirwedd a phriddoedd ar amaethyddiaeth yng Nghymru gan fod llawer o wybodaeth ar gael ynglyn a'r ffactorau hyn ac oherwydd fod y berthynas rhyngddynt yn gymhleth.

Tasg go wahanol yw llusgo dan amgylchiadau felly i lusgo ar draws gwlad.

Onid tasg gyntaf Wigley a'i gydAelodau Seneddol felly ydi mynnu bod y cyfryngau a'r papurau dyddiol ac wythnosol yng Nghymru yn rhoi lle priodol i'r frwydr etholiadol yma yng Nghymru fel bod cyfle felly i'r Blaid gael ei phig i mewn i'n haelwydydd?

Tasg Morlais oedd cario'r cwdyn gwerthfawr.

Mae tasg anodd o flaen y chwaraewr canol-cae ugain oed.

Unwaith eto dyma waith i Grwp Tasg paratoi.

Ar ôl canlyniad ddydd Sadwrn falle bydd y rhyddhad a brofodd Lloegr yn gwneud tasg y Saeson yn anoddach nag y maen nhw'n ddisgwyl.

Ond rhaid cydnabod mai tasg enfawr oedd ganddo, sef llenwi dwy golofn hir bob wythnos (o gofio beth oedd maint tudalennau'r Cymro bryd hynny), ac nid yw'n syndod iddo gael ambell wythnos lom.

Er mwyn sicrhau llwyddiant ac effeithiolrwydd y Polisi Dwyieithog o'r diwrnod cyntaf, galwn ar y Swyddfa Gymreig i sefydlu Grwp Tasg i gydlynu ymdrechion a syniadau er mwyn ymbaratoi at gyflwyno Polisi Dwyieithog yn y Cynulliad.

Ein tasg ninnau yw ailgynnull y marchogion a chyrchu'r gad drachefn.'

Trodd Delwyn ati'n gyflym, 'Tasg bach iawn i unrhyw wrach gwerth 'i halen fydde gosod cynffon wrthi!' Gwyrodd y gwrachod eu pennau.

Ar ôl imi basio arholiad y Bwrdd Ymgeiswyr am y Weinidogaeth, 'roeddwn i'n meddwl bod fy holl ofidiau ar ben, oherwydd tasg go fawr oedd arholiad y Bwrdd.

Eich tasg yw canfod beth a ddigwyddodd a pham a cheisio meddwl am ffyrdd o leihau'r effaith y gall llifogydd ei gael ar fywydau pobl.

Cyfieithu egwyddorion, meddai, yn bolisi a threfn yw ein tasg gwleidyddol.

Pe cawsai Bedwyr fyw, buasai yn awr yn cydarwain tîm o weithwyr o dan nawdd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd i lunio cyfres o eiriaduron ar enwau llefydd Cymru, tasg y mae hen angen ei chyflawni.

Nid tasg syml serch hynny yw diogelu traddodiadau, meithrin hunaniaeth, meithrin perthynas effeithiol efo gwledydd y Gorllewin a'r Dwyrain a sicrhau ffyniant economaidd wrth ddiosg yr hualau Sofietaidd.

Nid tasg hawdd yw adolygu perfformiad gan gwmni ieuenctid - pobol ifanc amatur.