Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tasgu

tasgu

Mae goleuni'n tasgu'n ol o'r drych ac yn mynd drwy'r gannwyll.

Mi weles hefyd aberthu geifr dirifedi mewn puja i'r dduwies kali yn Shillong, a'r gwaed yn tasgu'n goch ar gnawd a dillad defosiynol gwþr a gwragedd a phlant ac aml-freichiau nadreddog y duwies ei hun.

O'r diwedd, mae'r bag yn clecian agor ac mae'r creision yn tasgu i bob man.

...coedwigwr praff yn dethol pren Tyrd ataf; cân â'th fwyell rybudd dwys A tharo unwaith, ddwywaith, nes bod cen Yn tasgu, a'r ceinciau'n crynu, a chrymu'u pwys; Dadwreiddia fi o'r ddaear, cyn y daw Ffwrneiswaith y golosgwyr acw draw.

Wnes i 'rioed chware yn y fath dywydd llethol, lle'r oedd y chwys yn tasgu dim ond wrth wneud y symudiad lleia, heb sôn am garlamu o gwmpas y lle ar ôl tipyn o bêl.

Y rhyfeddod mwya oedd mai'r unig losgiade gês i oedd o dan 'y nhraed, lle'r oedd y saim wedi tasgu ar y carped.

Wele'r Toriaid benben a Magi a'i handbag yn tasgu i bob cyfeiriad fel cymeriad gwallgof mewn pantomeim.

Profiad ingol ar drothwy'r 'Dolig oedd mynd heibio a gweld dim ond pedair wal yn sefyll a pheirianna'n turio hyd yn oed i sylfeini un o'r rheini tra llosgai'r gweithwyr rai o blancia'r to yn ei grombil gwag, y gwreichion yn tasgu o'r fflama' a'u cochni yn cael ei adlewyrchu yn gysgodion grotesg ar blastar y muria' i oleuo mwrllwch bore oer o Ragfyr.