Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tatws

tatws

Mae'r awdurdodau iechyd yn poeni fod yr arfer o ddefnyddio tatws parod ar gynnydd gan fod y mwyafrif o bobl eisoes yn tueddu i fod yn brin o fitamin C.

Yn ogystal â hofio rhwng y rhesi mae'n rhaid parhau i briddo'r tatws fel bo'r gwlydd yn tyfu.

Ac felly, wrth gwrs, y bu, er dadrithiad i'r casglwyr enwau ac er siomedigaeth i ffermwyr Llŷn oedd wedi meddwl am gael gwneud eu ffortiwn wrth werthu tatws i'r Gwersyll.

Byddai gwasgaru ychydig o wrtaith cyffredinol rhwng y rhesi'n hybu tyfiant y tatws.

Nid yw tatws eu hunain yn peri ennill llawer o bwysau, yr ymenyn y grefi neu saws a fwyteir i'w canlyn sy'n ychwanegu caloriau.

Fe wyddom ninnau, wrth reswm, na ddylid byth fwyta tatws wedi troi'n wyrdd; yn sicr mae'r rheini'n wenwynig.

"Mi fydd raid i ni blannu reis toc ybn lle tatws." Roedd JR ar fin gwneud sylw am y tywydd ond aeth y ffarmwr rhagddo yn galonnog.

Fel rheol arferaf blannu tatws yn yr ardd allan yn ystod yr wythnos gyntaf neu ail o Fawrth ond nid oedd cyflwr y pridd yn ddigon sych eleni i ganiata/ u gwneud hynny felly bu ymarfer ymenydd (gwell ymadrodd na 'crafu pen') i geisio dull o ddod dros ben hynny.

Dylid osgoi fel y pla unrhyw datws wedi eu paratoi yn barod, megis sglodion wedi rhewi a phowdwr i wneud stwns tatws, er eu hwylused.

Y cam nesaf oedd i'r gyrrwr ein cyhuddo o fwyta sglodion tatws ar y bws oherwydd dychmygai fod arogl sglodion yn yr awyr.

Wrth weld 'y fath olwg ddiafolaidd anifeilaidd' ar ei thad, teimlai Winni fel 'ei lindagu a gwasgu ei gnawd nes byddai yn sitrws fel tatws drwg wedi eu berwi i foch' (Haul a Drycin).

Mae tatws, ymysg eraill o'r carbohydradau cymhleth, yn fwyd priodol i'w gymryd yn gymedrol ar gyfer cynnal pwysau cywir.

Ychydig o gnydau a dyfir yn genedlaethol, er fod cnydau megis tatws cynnar ac yd yn bwysig i economi ffermydd mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn yr iseldiroedd.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Ambell dro caem ychydig o gawl tatws melys, gyda dail y tatws yn gymysg ynddo, a byddai'n ddiwrnod mawr pan dderbyniem ddyrnaid o datws neu ddiferyn o laeth neu jam neu siwgr.

A chwithau hwyrach wedi bod yn ymatal rhag bwyta tatws!

Byddem yn gorfod mynd i godi tatws a chydweithio efo carcharorion rhyfel yn y gorchwylion hynny; ond gan mai ffarm oedd fy nghartref bu+m yn ffodus o gael gweithio gartref neu ar fferm f'ewythr ym Mach-y-Saint.

Bwytewch fwydydd llawn starts fel bara, tatws, pasta a reis.

Maen nhw'n aros eu cyfle yn y gwanwyn pan fo'r ffermwyr yn plannu tatws yn y ddaear a phan nad ydi'r ffens drydan yn cael ei def- nyddio, a chyn gynted ag y mae'r tatws ifainc yn y ddaear maen nhw'n dod gyda'r nos ac yn tyrchu'r ddaear gyda'u trwynau cryfion ac yn dod o hyd i'w hoff fwyd.

Cofier mai'r braster yn y pryd hwn yn hytrach na'r pysgod a'r tatws sy'n debyg o beri ennill pwysau.

gofyn pobl y ffordd hyn bob dechrau haf hefyd, 'ydych chwi wedi dechrau tynnu tatws', yn union fel y gofynant, 'welsoch chwi wennol' neu 'glywsoch chwi'r gôg>' Sylwaf wrth feirniadu mewn sioeau cynnyrch garddio fod llai na chynt yn cystadlu yn y dosbarth i gasgliad o lysiau a chryn gam ddealltwriaeth hefyd am yr hyn ddisgwylir.

Penderfynais osod y tatws hadyd bron cyffwrdd ei gilydd ar wely o bridd cyffredin mewn bocsus.

'Roedd wedi bod yn gosod tatws yn Nhyddyn Talgoch drwy'r dydd ac wedi cael ychydig o datws hadyd i fynd adref efo hi.Daethai'n nos cyn iddi gychwyn am adreg i Growrach, ac'roedd hi'n niwl trwchus.Gan nad oedd wedi cyrraedd erbyn deg aed i chwilio amdani.

Amheuthun i fynd â'ch tatws, pys, moron, sgewyll a'ch cydwybod gwyrdd golau.

Gwneir hyn fel na bo'r tatws bach yn dod i'r golau a throi'n wyrdd.

Mae tatws yn addas i bawb ond yn enwedig i'r oedrannus gan eu bod yn hawdd eu treulio.

Hwyrach y dylid nodi nad yw tatws yn gymeradwy ym mhob rhan o'r byd.

Bwyd traddodiadol a baratowyd ar y dechrau - cig rhost, tatws a llysiau.

Ac isod gwelir pa ganran o'r fitamin C gwreiddiol sydd yn y tatws ar ôl gwahanol ddulliau o goginio:

Mae tatws newydd eu codi yn cynnwys llawer mwy o fitamin C nag yw tatws wedi eu cadw drwy'r gaeaf.

Er mwyn cadw at y pwysau hyn yn hytrach na cholli mwy, rhaid i chi gynyddu'r maint o fara, tatws, reis, pasta a ffrwythau yn eich diet yn raddol.