Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tawelwch

tawelwch

Y bore wedyn roedd Merêd yn awyddus i fynd i grwydro naill ai ar hyd yr arfordir i gyfeiriad An Spideal neu i fyny'r dyffryn i gyrion Loch Coirib er mwyn cael mwynhau'r golygfeydd a'r tawelwch digymar; ond mynnodd Dilys gysgu ymlaen ar ôl cyfeddach y noson cynt.

Yn y diwedd, fe gymodwyd rhwng Morgan ac Evan Meredith gan neb llai na Syr John Wynn o Wedir, y bu priodas ei frawd ieuengaf ag aeres Maesmochnant yn achos effeithiol yr holl helynt, ac am ychydig flynyddoedd fe fu tawelwch cymharol yn Llanrhaeadr, fel y buasai yn ystod blynyddoedd cyntaf trigiant Morgan yno.

Ar adeg felly byddai pob ymryson yn peidio rhyngddynt a rhyw ddeialog ymenyddol ddi-eiriau yn digwydd o fewn cylch y tawelwch.

A doedd y ddynes sy'n llnau'r lle ddim yn cofio'i gweld hi, chwaith." Bu tawelwch rhyngddyn nhw am eiliad cyn i Mam siarad eto.

Cododd awydd ym mysg y deallusion i amddiffyn yr etifeddiaeth o harddwch, tawelwch ac o lecynnau ysbrydoliedig.

Ar ddydd golau, yn sŵn traffig a phobl a rhuthr fedrech chi mo'i chlywed, ond yn y tawelwch, roedd miwsig yr afon yn llithro dros y cerrig i'w glywed yn glir.

Yr oedd ei dwy gyfnither a'i chefndryd yn meddwl am y tawelwch hwn yn ddistaw bach ac yn edrych arni mewn peth syndod.

Tawelwch eto!

Ond 'na fe, be all e'i wneud yn wyneb eu deddfe Nhw?' Gyda hyn, trodd Mr Williams drwyn y cerbyd i fyny'r rhiw at gartref Dilwyn a bu tawelwch hyd nes iddo stopio y tu allan i ddrws ffrynt Llwyngwern.

Tawelwch!

Rywfodd, gallaf fu nychmygu fy hun yn awr yn sefyll yn reit ofnus o flaen y sbectol hynny mewn un o'i lysoedd yn Aberdar neu Ferthyr - am resymau amlwg efallai - ac yntau'n syllu'n ddigon llym ac eto'n eironig chwareus ar y fath ffigur llipa, ac ar ol tawelwch hir go arwyddocaol yn ebychu'n wlyb i ganol fy llygaid - 'Eilradd, ai e?' Oedd roedd yn bryd i mi ostwng pen ryw ychydig.

Erbyn canol y bore yr oedd yr haul yn ei anterth, ac aeth awyrgylch yr iard yn drymaidd a chysglyd eithriadol, a'r tawelwch hefyd yn gwneud pethau'n waeth.

Tawelwch am ennyd, mwy o sŵn.

Pethau'n mynd i'r gwellt heb i mi wneud dim byd i frwydro yn erbyn hynny; dim ond gorwedd yn ddiymadferth o dan ergydion creulon y tawelwch a adawai glwyfau a chleisiau newydd o ddieithrwch bob eiliad.

Teyrnasai tawelwch drachefn wrth y ffynnon.

Tawelwch sydd wedi bod ym Mhrydain ers i'r grwp ganslou taith Brydeinig llynedd, ac ers hynny, mae Cerys wedi wynebu beirniadaeth yn y wasg am ei sylwadau am gyffuriau, a chyhuddiadau o ymddygiad rhagrithiol - yn bloeddio canu am ba mor ddi-enaid yw bywyd Llundain, ond eton cael ei sbotion gadael y Met Bar bondigrybwyll gydag amrywiaeth o ser.

Bu'r ddau yn pysgota mewn tawelwch am dipyn ond heb fawr o lwc.

Ac wedi elwch tawelwch fu%.

Torrodd sisial ar draws y tawelwch.

Yn ôl y grwp, mae'r ddwy gân arall wediu cynnwys ar yr EP er mwyn atgoffar gwrandawyr sydd wedi anghofio amdanyn nhw yn ystod eu tawelwch, ac o gymharu rhain âr gân newydd, mae'r datblygiad yn swn y grwp yn amlwg.

Syrthiodd tawelwch dros y tŷ i gyd wedi i'r plant gysgu.

Ni all Darfu'r tawelwch nac amharu dim Ar dreigl a thro'r pellterau sydd o hyd Yn gwneuthur gosteg a'u chwyrnellu chwim.

Ac nid oedd chwithdod yn eu tawelwch.

Rhoes y chwyrnwr roch sydyn o brotest, ac yna bu tawelwch mawr.

Bu hynny'n ddryswch mawr i mi fod tawelwch, o bob peth bendithiol, yn cadw pobl yn ddi-hun.

Ac wrth iddi dacluso'i llyfrau yn nistawrwydd diwedd pnawn a chlywed lleisiau ei disgyblion yn pellhau nes mynd yn un â'r tawelwch y tu allan, ni allai lai na'u dilyn yr holl ffordd adref, yn ei meddwl.

Yn llofft y genethod yr oedd tawelwch.

Mae'r gwrthdaro'n amlwg trwy'r ddrama; gwrthdaro rhwng tawelwch Daz, y dieithryn, a chlegar y trigolion 'naturiol'.

Yma roedd tawelwch.

Pa siawns sydd ganddo i fod yn wahanol mewn oes nad yw tawelwch yn ei geirfa mwyach?

Yfory bydd pawb yn y dref yn cael hanner kilo o fara yn ychwanegol fel anrheg." Arhosodd am eiliad gan ddisgwyl bonllef o'r dorf ond doedd dim ond tawelwch yn ei wynebu.

Prin iawn yw ceddi marwnad gan feirdd i'w plant eu hunain yn llenyddiaeth Ewrop yr Oesoedd Canol, ac mae haneswyr wedi tueddu i dybio fod y tawelwch yn dangos nad oedd rhieni'n galaru am eu plant.

Wedi'r cyfan, oni bai amdanynt, buasai Tawelwch a Rhwystredigaeth a They%rnedd wedi parhau'n hwy, ac er bod i Ryddid Barn ganlyniadau annymunol weithiau y mae o raid yn well na sensoriaeth.

Byd natur, tawelwch i feddwl dros bethau, gwrando ar fiwsig sydd wedi profi ei werth ar hyd yr oesoedd, dyna, rwy'n credu, fyddai fy nefoedd fach i.

Fel y mae yn wybyddus erbyn hyn, paentio mewn olew y mae Gwyneth ap Tomos ac y mae ei gwaith hithau eto yn dangos harddwch tawelwch a llonyddwch.

Roedd y tawelwch yn y gwasanaeth yn dawelwch ysbrydol, hyd yn oed yn y cynnwrf a'r annifyrrwch o fod mewn gwlad a dinas fel Beirut.

Tawelwch natur a'i synau arbennig ydyw fy miwsig i.

Ymlaciodd eto a mwynhau cynhesrwydd ei blancedi gan lithro'n freuddwydiol-ddyfnach i gofio am yr hen hapusrwydd, y dyddiau melyn cynnar, yn arbennig cofio'i Hewyrth Joseph yn cyrraedd Trefeca mewn chaise o Lundain i adfer ei iechyd yn y tawelwch.