Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tegeiriannau

tegeiriannau

Mae'n ymddangos fy mod i'n bodoli i raddau helaeth ar wres, fel pry copyn newydd anedig, ac mae'r tegeiriannau'n esgus dros gael gwres.

Tegeiriannau'r trofannau a welwn yn ein siopau blodau ac yn tyfu mewn tai gwydr cynnes.

Rhoddir anifeiliaid i bori yn y caeau ym mis Awst a thros y gaeaf er mwyn rheoli'r tyfiant a chynnal y tir glas ar gyfer y tegeiriannau.

O'r holl blanhigion prin, 'rwyf am ganolbwyntio ar chwilio am aelodau un teulu'n unig am y tro, sef teulu'r tegeiriannau (Orchidaceae).

Mae'n anodd tyfu tegeiriannau oherwydd dibynniaeth y tegeirian ar y ffwng ynghyd â'r amser maith sydd arno ei angen i egino.

Ar lawr y tyf tegeiriannau Gogledd Ewrop fodd bynnag, er mawr hwylustod i ambell chwilotwr a thynnwr lluniau!

Roedd yr awyr yn fyglyd, yn wlyb a llaith ac yn llwythog gan aroglau gorfelys tegeiriannau trofannol yn eu blodau.

'Rydym yn ddyledus i Charles Darwin am lawer o'n gwybodaeth o ddulliau peillio'r tegeiriannau.

Ydych chi'n hoffi tegeiriannau?" "Dim yn arbennig," meddwn i.

Yna dychwelodd y bwtler gan wthio troli de trwy'r jyngl, cymysgodd frandi a soda i mi, lapiodd y bwced rew gopr gyda napcyn tamp, ac aeth ymaith ar ysgafn droed rhwng y tegeiriannau.