Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teimladol

teimladol

Efallai nad oedd Wilson Knight yn bwriadu i ni gymhwyso ei frawddegau at eiriau unigol ond mae'n demtasiwn cymryd defnydd Waldo o'r gair 'awen', ac, o ran hynny, y gair 'adnabod' fel enghreifftiau o "words inflated by mind", ac arwain hyn ni i ystyried pa fath o feddwl a oedd gan Waldo, gan gynnwys yn y gair 'meddwl' nid yn unig y meddyliol ond hefyd y teimladol yn ei wneuthuriad.

Clywyd pregethu huawdl, teimladol, miniog ac apelgar gan Biwritaiaid fel William Wroth, Walter Cradoc, Vavasor Powell a Stephen Hughes.

Euog, ie, - ond yr oedd y cosbau ysgafnach a ddyfarnai'r llysoedd mewn achosion fel hyn yn adlewyrchu'r teimlad fod yr euog o dan bwysau teimladol anghyffredin.

Ond ar ôl hynny, gostyngodd yr angerdd a chafwyd pregethu mwy rhyddieithol, mwy deallusol, llai teimladol.

Gellir dadlau bid siwr, mai cyfyngedig yw rhychwant teimladol a ffurfiol a thestunol y naill a'r llall o'r beirdd hyn, bod maint eu cynnyrch, ac amrediad eu harddull a'u profiad yn fychan.