Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teimlwn

teimlwn

Teimlwn yn druenus iawn y noswaith honno.

Teimlwn fod peth fel hyn yn dipyn o gywilydd.

Doedd ef ddim yn ddigon tal i'w dilyn, fodd bynnag, ond wedi clywed am heddlu'r carchar "teimlwn fod yma ryw fath o her, rhywbeth gwahanol" ar ei gyfer.

Teimlwn fod pob teulu yn ffrindiau imi.

Defnyddir y trosiad o'r cyw yn gadael y nyth i gyfleu'r sefyllfa yma, ond teimlwn fod y diweddglo braidd yn ystrydebol.

Unwaith eto, croesawn well dull o gofnodi digwyddiadau, ond teimlwn bod pobl yn mynd ati o'r cyfeiriad anghywir.

Teimlwn yn flin a diymadferth, a daeth awydd arnaf i sleifio allan o olwg pawb.

Eto teimlwn ei bod hi'n werth y drafferth o fynd i'r afael â'i gerddi.

Ond teimlwn yn wahanol ar ôl clywed y caneuon yn cael eu canu yn fyw.

Pan gefais fynd i ginio misol y Gymdeithas Gymraeg teimlwn fod yna diddordeb mawr yng Nghymru a'i phobol, ond dim ond dau neu dri oedd yn gallu siarad Cymraeg.

Teimlwn bob amser mai dyn o'i le oedd Hugh Evans.

Teimlwn mai'r peth gorau i mi oedd ymgolli mewn sgwrs, heb dalu gormod o sylw i'r lwyfan.

Ar ôl curo ar y drws anferth, teimlwn fod safnau uffern yn agor o'm blaen," meddai.

Teimlwn y sewin yn tynnu a phlycian fel ci anniddig wrth gortyn.ym mherfeddion y pwll.

Teimlwn fy ysbryd yn esgyn ac yn esgyn nes yr oeddwn "yn nofio mewn cariad a hedd." Dair wythnos wedi hyn, daeth profiad cyffrous iawn imi Disgynnodd colomen wen eto ar sil fy ffenestr.

Teimlwn yn gynhesol tuag ati, oherwydd synhwyrwn fod yma rywun cyfeillgar, diffuant iawn oddi tan yr holl siarad.

Ar ddiwedd arholiadau'r haf gofynnwyd i mi ddechrau cymryd fy nhro ar organ Capel Seion, ond teimlwn y byddai'n fuddiol i mi gael practis go iawn arni'n gyntaf.

Teimlwn fel Mari Huws nymber ten ers talwm.

Teimlwn yn bur grynedig wrth aros fy nhro yno i wynebu'r fath bwysigion.

Teimlwn fel gweiddi 'Hwrê' fawr o ryddhad - ond, wrth gwrs, fentrwn i ddim.

Teimlwn yn gymysg fy meddwl ac ychydig yn ansicr wrth eistedd ymysg cynulleidfa bitw o ryw hanner cant yn theatr anferthol Elli gyda phawb yn gofyn yr un cwestiwn - "lle mae pawb d'wedwch?" Tybed oedd y gweddill yn gwybod rhywbeth nad oeddem ni'r ffyddlon rai yn ei wybod am y cynhyrchiad?

Teimlwn na allwn fyth gymryd bendith dros rywun eto, oni chawn esboniad ar yr hyn a ddigwyddasai.

Teimlwn yn glwyfedig, ac ebe fi, dipyn yn gynhyrfus: ``Dafydd Dafis, os nad af i'r athrofa yrŵan, nid af yno byth.

Gyda'r holl drefniadau, teimlwn o hyd fod fy hen feistr hoff yn fy ymyl; ac yr oeddwn megis yn gwneud popeth yn ôl ei orchymyn.

Teimlwn y dylid cael cadoediad yn awr, cyn i'r rhyfel ar y tir ddechrau, er mwyn trafod a cheisio cael ateb heddychlon yn fuan.

Teimlwn fod raid achub ei gam, gan fod ambell un wedi beirniadu ei benodiad i'r swydd bwysig honno, ar y sail ei fod yn ddi-Gymraeg.

Teimlwn bod Saesneg yn dod yn rhwyddach i Len Phillips na Chymraeg.

Teimlwn fy mod wedi colli fy nghyfaill gwerthfawrocaf, a hynny ar adeg pryd yr oedd fy nyfodol, a siarad yn ddynol, yn dibynnu ymron yn gwbl arno.

Deudwch y dowch chi." Teimlwn ei bysedd byrdew yn cydio yn fy mraich a'i gwasgu.

Teimlwn erbyn hyn eu bod yn ystyried Pwllheli fel lle iddynt ymarfer ar gyfer mynd i le mwy.

Wrth adael y ffordd a charlamu i lawr trwy'r pinwydd at gyrrau S-chanf, fodd bynnag, a gweld y dyffryn yn ymestyn o blwyf i blwyf tua'r gorllewin, teimlwn fy mod 'wedi croesi'r Alpau' lawn cymaint a Wordsworth a Robert Jones Llangynhafal, yn dod i lawr y Simplon, gynt.

Teimlwn yn llesg ac yn ymwybodol iawn o fod yn hen ddyn diddim, heb fod o unrhyw fudd i'w gymdeithas leol nac i unrhyw gymdeithas arall, chwaith.