Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teithiwr

teithiwr

Ydi'r teithiwr cyffredin yn mynd i dalu £500 i deithio ar awyrennau BA neu Lufthansa, neu £200 i deithio ar ffleits-dim-ffrils Ryanair.

I'r teithiwr dieithr a ddeuai am dro o Lundain, dyweder, i berfeddion gwlad Cymru, rhan o Loegr oedd y wlad o'i gwmpas.

Gwyddwn y buasai'r teithiwr nesa' yntau'n methu dod oddiarni, neu y buaswn i'n cael fy nharo'n anymwybodol ganddo ef neu'r gadair.

Ie, teithiwr garw oedd fy nhad.

Ond, bellach, gyda gwasanaeth cwmnïau fel Easyjet - sydd gyda llaw yn derbyn dros 90% o'r trefniadau dros y we, sef yr ucha' yn y diwydiant - mae rhyddid gan y defnyddiwr i greu pecynnau unigol wedi'u teilwrio'n arbennig i ofynion y teithiwr.

Wrth deithio i lawr yn y tren i Lundain gobeithiai Hector fod ei gyd- deithwyr yn canfod arno arwyddion teithiwr profiadol, ac yntau wedi gosod label 'PARIS' yn amlwg ar ei fag.

Ond i'r teithiwr busnes sy'n cyrraedd y maes awyr ac yn llogi tacsi er mwyn cyrraedd ei westy, llwyd a dilewyrch yw'r argraff gyntaf o'r drefedigaeth; heolydd penrhyn Kowloon rhwng y maes awyr a'r twnel i ynys Hong Kong yn dagfa drafffig fyglyd, fflatiau'r pumdegau a'r chwedegau yn salw o'u brig i'w bôn, ysbwriel o'r lloriau uwchben wedi disgyn yn bentyrrau pwdr ar y mân doeon sy'n cysgodi prysurdeb y stryd rhag bygythiad glaw tyrfau'r gwanwyn.

Mae gan Loegr, dyn a ŵyr, ei phroblemau lleiafrifoedd ei hun, ond y maent yn wahanol iawn i'n rhai ni, yn llawer mwy anghyswllt fel y gall teithiwr fwrw heibio heb sylwi arnynt.

Gobeithiai eto fod golwg teithiwr profiadol arno wrth gamu i mewn i'r cerbyd a chyhoeddi mewn llais annaturiol o gadarn: 'Victoria.'

Sefyllfa amserol, yn oes y Teithiwr Newydd.