Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teliffon

teliffon

Mae'r teliffon wedi distewi ac mae pobman yn dawel ar wahân i sŵn y gwynt yn mynd heibio a chyfarthiad Sam, ci'r drws nesaf ond un.

Dyna fu'n gyfrifol fod un brawd wedi cael clod am redeg "hanner can milltir" at y teliffon i alw'r frigâd pan aeth ei dy ar dân.

Un nos Sul, a minnau erbyn hynny wedi symud o'r fro a chartrefu yn ardal Dinmael, daeth neges teliffon yn gofyn imi frysio adre i fro fy mebyd am fod Mam yn ddifrifol wael.

Bu cwyno yn y papur bro lleol, Llafar Bro, fod mast teliffon symudol hyll wedi ymddangos, a mawr oedd y cwynion yn ei erbyn.

Ond nid oedd wedi torri pob cysylltiad a'i hen gynefin: roedd ganddo ryw gyfaill neu'i gilydd ymysg is-olygyddion y rhan fwyaf o'r papurau cenedlaethol, a phan ffroenai stori leol y gellid ymestyn rhyw gymaint ar ei diddordeb, ai ar y teliffon i'w hysbysu, a chael punt neu ddwy am ei drafferth.

Maen nhw'n hyfforddi cūn i roi gwybod i bobl sy'n methu clywed pan fydd rhywun wrth y drws, neu pan fydd y teliffon yn canu.'

Canodd y teliffon.