Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

terfynau

terfynau

Mae'n anodd i ni, sy'n hedfan i Awstralia mewn mater o oriau, ddychmygu'r fath brofiad; wythnosau lawer wedi eu carcharu o fewn terfynau llong gymharol fechan, heb gysylltiad o gwbl a gweddill y ddynoliaeth.

Honnir ar siaced lwch Y Gaeaf Sydd Unig Marion Eames, er enghraifft - nofel sy'n trafod cyfnod Llywelyn Ein Llyw Olaf : Er bod cymdeithas wedi newid yn ddybryd ers yr amser hynny, mae'r nofel yn dangos nad oes terfynau amser ar ymateb y natur ddynol i broblemau oesol cariad, cenfigen, dyletswyddau a marwolaeth.

Bellach, trown at wahanol gyrchfannau'r Cywyddwyr - a'r Cwndidwyr - o fewn terfynau Sir Forgannwg, gan ddechrau gyda'r mynachlogydd a chartrefi rhai gwŷr eglwysig eraill.

ehangu terfynau ein diwylliant Cymraeg, ystwytho a chymhathu ein Cymreigrwydd i gynnwys a mynegi'r gwareiddiad dinesig diwydiannol yr ydym yn byw ynddo heddiw.

Deallodd honno'r tric, ymddigiodd yn aruthr, daeth i'r gegin, rhuthrodd ar Robin fel arthes, am daenu chwedlau o'r fath honno am ei mab hi - galwodd ar ei cherbydwr, ac archodd iddo horschwipio Robin o'r terfynau.

Trychinebau.' 'Trychinebau o law dyn a natur fel ei gilydd.' 'Ond sut gallsai pethau ddirywio mewn amser mor fyr ag oes dyn?' 'Sut gallsai pethau gynyddu o fewn yr un terfynau amser yn ystod y ganrif flaenorol?' Synnodd Mathew at rym ei ddadl.

Gwnaeth Mihangel Morgan lawer i ymestyn a datblygu terfynau y stori fer...

Wrth edrych ar y terfynau igam-ogam ar y mapiau, mae'n amlwg mai mympwy yn hytrach na bwriad a osododd i lawr lun a maint y plwyfi.

Yn raddol hefyd, sylweddolwyd nad haint newydd mo SDIC, ond hen haint a gadwyd o fewn terfynau mewn rhannau arbennig o'r byd, ond a ymledodd trwy'r byd i gyd fwy neu lai, oherwydd mwy o gymysgu rhwng poblogaethau.

A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.

A gadwyd y treuliau o fewn y terfynau a osodwyd?

Terfynau Cyllidol