Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

term

term

Dros y blynyddoedd defnyddiwyd y term archaeoleg môr gyda llu o ystyron iddo ac y mae'r modd y defnyddia'r wasg boblogaidd y term yn adlewyrchu amlochredd y pwnc.

Y mae stôr o wybodaeth gan bob siaradwr, sy'n ei alluogi i gynhyrchu a deall nifer annherfynol o olyniadau newydd yn ei iaith, ac â'r wybodaeth fewnol honno'n bennaf (competence yw term Chomsky) nid â'r sylwedd a gynhyrchir gan y siaradwr (performance yw gair Chomsky) y mae a wnelo gramadeg.

* cymysgwch ynghylch diffiniad o'r term angen addysgol arbennig a beth yw union swyddogaethau a chyfrifoldebau asiantau gwahanol;

Mae'r term yma yn cynnwys plant ag anghenion arbennig ac ag anableddau.

Mae'r term hefyd yn cynnwys unrhyw ddisgybl gydag anabledd sy'n ei atal ef/hi rhag defnyddio'r cyfleusterau addysgol a ddarperir mewn ysgolion.

Dangosir yr un diddordeb mewn darllen dwylo; somatomaneg (y gallu i ddarllen arwyddion ar y corff dynol); cardiau tarrot; a Deja vu (term Ffrengig yn golygu 'gwelwyd eisoes').

Term aflednais braidd yw 'bardd eilradd', Rywsut nid yw'n ateb gofynion neb.

Gan nad beth, creadur y gwanwyn yw'r oen, ac arferais gredu, yn gam neu'n gymwys, bod a fynno tarddiad enw'r tymor cyntaf â ffurf lluosog y term 'oen'.

Rwyf wedi clywed ar ôl dechrau'r papur hwn nad Metlin oedd y cam cyntaf yn y gwaith, ond eu bod yn gyrru cerrig go fawr (term y gwaith am y rhai hyn yw cerrig torri, sef cerrig wedi eu torri gan yr ordd) i Runcorn i gael eu metlo; felly roedd yn angenrheidiol cael rhywbeth i gario'r cerrig hyn o ben y graig i lawr i lan y môr, a ffyrdd i'w cludo.

Cymry uchelgeisiol da-eu-byd oeddynt, neu a defnyddio'r term sy'n gyfarwydd inni'r dyddiau hyn, Yuppies' oeddynt.

Y ffaith i'r term ymddangos yn hanes yr hen fwrdeisdrefi a sbardunodd y cyn was sifil i fentro i faes yrnchwil oedd yn galw am gryn ymroddiad.

Un anhawster sydd wedi codi dros y blynyddoedd yw priodoldeb y term anghenion arbennig.

Term technegol yw `demon' yn y cyswllt hwn ac ni ddylid ei gymryd fel yn gyfystyr â `diawl' neu `gythraul'.

Mae tuedd i'r label clasuraeth fod yn gamarweiniol gan mor gyfyng yw'n dehongliad ni o'r term yn aml.

Credaf mai ParryWilliams a fathodd y term 'pryd poced' a fyddai'n cydio de a gogledd yn esmwyth ddigon.

Yn ôl Geiriadur Saesneg Rhydychen golyga: Yna ceir dyfyniad buddiol sy'n cysylltu'r term ag athrawiaeth gymdeithasol y Catholigion: Mae'r dyfyniad yn glir.

Menter blaengar a phwysig yw'r strategaeth hon, a adwaenir wrth y term All Wales Strategy (AWS).

Gan fod llawer o ddynion yn gweithio yn y bonc roedd yn rhaid cad rhyw drefn gyda'r saethu, neu mi fuasai rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu bob tro; felly roedd amserau neilltuol i'r saethu a threfn rhywbeth tebyg i hyn: roedd dyn penodedig yn chwythu biwgl, ac ar y chwythiad cyntaf roedd pawb nad oedd a wnelo hwy â'r saethu yn mynd i le diogel i ymochel neu, i ddefnyddio term y chwarel, i wardio ffiars.

Gelwid y pentwr hwn yn wats (term morwrol yn golygu gwyliadwriaeth), pedair wats bob dydd ym mhob melin, a'r dalwr oedd yn gyfrifol am eu rhoi'n daclus yng nghefn y felin o fewn cyrraedd y bwndelwr a'r shêrwr.

I fod yn hollol gywir, cyfyngir y defnydd o'r term hwn i gostau anuniongyrchol o gynhyrchu ond siaredir yn aml, hefyd, am argostau gweinyddol ac argostau marchnata.

Er bod diffiniadau statudol o'r term anghenion arbennig ar gael, mae ehangder y grp, amrywiaeth yr anghenion ac amlder ymddangosiad y gwahanol anghenion yn arwain at anhawsterau mawr wrth geisio gynllunio'n strategol.

Rhan o'i ddyletswydd beunyddiol cyn iddo ymddeol oedd cerdded ar hyd trac y rheilffordd ar hyd y gangen a arweiniai o lein Aberystwyth i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn pellter o ddeng milltir, i wneud yn siwr fod pob allwedd, os hynny yw'r term sy'n cyfieithu 'key', yn ei lle rhwng y cledrau ac ochr allanol y cwpanau dur a i daliai.

Dros y blynyddoedd diwethaf bu rhywbeth tebyg yn digwydd ar rigiau olew ym Môr y Gogledd - ond nad desgiau oedd gweithwyr yn eu rhannu yno ond gwelyau fel y mae'r term Hot-bunking yn ei awgrymu.

Byddai'r gweithwyr yn helpu o bryd i'w gilydd, yn cywiro neu'n dod i'r adwy pan fyddai hi'n oedi, yn ceisio meddwl am y term technegol cywir.

Dwy ar bymtheg oed, ac yn gadael yr ysgol y term hwn.

Mae'r term subsidiarity yn un go newydd yn Saesneg.

Doedd dim pwynt mewn gofyn hanes y brawd gan fod y term brawd yn golygu llawer o berthnasau yn iaith y wlad.

Moderniaeth oedd y mudiad a ddaeth i ddisodli Rhamantiaeth, er mai Realaeth, realism, oedd term y beirdd am y canu newydd hwn a oedd yn wynebu bywyd fel ag yr oedd yn ei holl noethni, ansicrwydd a hagrwch, gan fyw yn y presennol yn hytrach na ffoi i'r gorffennol.

Mae arnaf ddiolch am yr awgrym, a hyd oni ddaw gwell gair bwriadaf ddefnyddio'r term cyfrifolaeth am subsidiarity.

Wel, yn ôl yn y tŷ lle yr arhoswn gwelais yn ôl y mapiau fy mod mewn gwlad 'Indianaidd' os goddefir y term.

Mae gan bob malwr ei le ei hun; term y gwaith amdano yw Bargen, ond coeliwch fi fuo erioed enw mwy camarweiniol; colled a llwgfa fu i ugeiniau, fel y dywedodd un ryw dro.