Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teuluoedd

teuluoedd

Yna o dipyn i beth fe werthwyd amball dž rhes, a'r pris o fewn cyrraedd teuluoedd yr oedd eu henwau'n llai cyfarwydd o dipyn.

Cyflawnid hynny fynychaf er mwyn cadarnhau statws y teuluoedd hynny.

Ni ddylid rhoi'r flaenoriaeth yn gyfan gwbl i ieuenctid: yr oedd angen targedu grwpiau eraill yn ogystal (fel mamau/teuluoedd o oed cenhedlu, ac oedolion sy'n arwain barn yr ifanc).

Gweddol rwydd fyddai ymestyn y model dechreuol i gynnwys sector y llywodraeth a sector masnach tramor yn ogystal â'r sectorau gwreiddiol, sef teuluoedd a chwmni%au.

Ar y cyfan mae pethau yn weddol dda efo'r pincod er bod peth consern ynglŷn â gostyngiad yn nifer rhai teuluoedd.

Doedd y Cymry yn yr ardal lle y cafodd hi ei magu ddim yn gwrthwynebu tai haf, ac roedd nifer go lew ohonyn nhw o gwmpas: rhai'n perthyn i enwau cyfarwydd megis Mackintosh, Dunlop, a Rowntree, teuluoedd a oedd yn berchenogion ar geir crand a chychod hwylio.

Golyga y gall grwpiau Cymorth i Fenywod gynnwys yn y dyluniad nodweddion nad ydynt ar gael mewn tai i anghenion cyffredin, megis ystafell chwarae, mwy o ofod ystorio, mesurau diogelwch ychwanegol ac ystafelloedd gwely mwy ar gyfer teuluoedd gwely mwy ar gyfer teuluoedd cyfan.

Yn sicr roedd amrywiaeth o bobl o wahanol oedran yno eleni syn profi apêl yr wyl - gyda'r teuluoedd yn mwynhau gweithgareddaur dydd ar bobl ifanc yn ei rocio hi ar ffarm Morfa Mawr gyda'r nos.

Estynnwn ein cydymdeimlad dwys i Douglas, y plant, ac i ddau frawd Mair, sef Howard a Penri a'r teuluoedd.

Amod bodolaeth pobl grwydrol oedd cwlwm teuluoedd, ac felly 'pobl' yn yr ystyr o gymundod o deuluoedd oedd Israel.

Teuluoedd ac amwynderau

Yr oedd y streic wedi ymledu dros ryw draean o holl faes glofaol Deheudir Cymru, ac yr oedd teuluoedd y streicwyr yn mynd i ddyled er mwyn cael angenrheidiau bywyd, a'u hiechyd yn dioddef yn arw o ganlyniad i ddiffyg ymborth.

Arglwydd Dduw teuluoedd Israel!

Cymaint haws oedd ganddi weini trugaredd a thosturi efo dwylo a chusan; gwisgo a dadwisgo, golchi a bwydo, trwsio a smwddio, anwylo a chribo, cysuro teuluoedd 'euog' a dwrdio ambell un esgeulus.

Gan fod cymaint o blant yn marw'n ifanc, mae rhieni Ethiopia yn tueddu i fagu teuluoedd mawr er mwyn gwneud yn siwr fod rhywun ar gael i ofalu amdanyn nhw yn eu henaint.

Arweiniai'r ymweliad hwn ni at ei hanes fel gwas bach (page boy) yn Llwyngwair gyda'r Boweniaid a'r atgofion am ymweliadau'r teuluoedd o'r Cilgwyn a Stradmore a'r dillad hardd a wisgent wrth y bwrdd cinio lle'r oedd disgwyl iddo weini yn gwrtais.

Peryglwyd nifer o ysgolion oherwydd bod teuluoedd ifanc wedi gorfod symud o bentrefi at stadau tai cyngor yn y trefi neu i chwilio am waith.

Buont yn enau i'n cydymdeimlad dwys â Phegi, ei briod, teuluoedd y ddwy ferch Helen a Janet, ac heb anghofio ei frawd, Will.

Ac am nad oedd lle yn eu cynlluniau i'r teuluoedd yma nid oedd lle iddynt mwyach ar y mynydd-dir, eu cynefin, eu cartref.

Bwriad yr arolwg fyddai mesur yr angen yng nghymunedau gwledig a threfol y dosbarth ynghyd â chyflwyno tystiolaeth am y math o angen lleol, boed hynny yn gartrefi ar gyfer yr henoed, pobl ifanc, teuluoedd ar incwm isel a.y.

Rhaid dylanwadu ar rieni sy'n medru siarad Cymraeg i drosglwyddo'r iaith i'w plant, boed hynny mewn teuluoedd lle mae un rhiant neu'r ddau yn siarad Cymraeg.

Bu'n bnawn gwerth chweil gyda'r tri gŵr da, yn olrhain hanes 'Chwarel Bryn', y cymeriadau a weithiai yno, y teuluoedd oedd yn byw o gwmpas, ynghyd a thrafod nodweddion y tirwedd a'r ardal.

Mae teuluoedd y wlad, yn groes i'r polisi un plentyn, yn cael dau neu dri phlentyn yn gyfreithlon.

O'r undod teuluol y datblygasai rhwymiadau priodasol i glynu teuluoedd a chynnal trefn a sefydlogrwydd.

Ac y mae'r un peth yn wir gyda'r Llydaweg, gyda rhai enwau teuluoedd hyd yn oed, oherwydd os arferai Llydawyr briodi merched o Sbaen, digwyddai rhywbeth tebyg yn Llydaw hefyd.

Y mae'r wybodaeth hon yn gyfrinachol ac fe'i cyhoeddir ar gyfer y rhanbarth gyfan, ac nid ar gyfer teuluoedd a thai unigol.

Yr ail wythnos oedd gwir ddechreuad y gwaith, chwarae â'r plant, dod i'w hadnabod nhw a'u teuluoedd a gwario amser yn VIC

Dyma lle yr oeddynt hwy a'u teuluoedd yn preswylio - yn byw yn foethus yng nghanol eu llawnder - yn ymdroi mewn porffor a lliain main ac yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd eu plantations ar y dyffryn, neu hwyrach tua glannau y Mississippi, yn cael eu gweithio ymlaen gan eu niggers, ac overseers uwch eu pennau.

Duw a'u bendithio ynghyd â'u teuluoedd.

Yn naturiol, gofalai teuluoedd y Rhos fod eu merched yn cael copi o'r Rhos Herald; yn nhrefi mawr Lloegr yr oedd merched y Rhos yn golofnau yn yr eglwysi Cymraeg, ac yr oedd cynnwys yr Herald yn gymaint, onid mwy, o destun eu hymgom a'r bregeth.

Pan oedd y cydio maes wrth faes yn digwydd, nid colli'r teuluoedd oedd yn byw yn y ffermydd yn unig yr oedd y gymdeithas; roedd y gweithwyr a'u teuluoedd yn gadael hefyd, ac yr oedd y crefftwyr yn mynd yn brin ac yn diflannu, ac nid oedd angen gwasanaethau ar boblogaeth denau oedd yn nychu i'w thranc.

Penderfynai pa rai oedd y gorau trwy edrych yn fanwl arnynt a thrwy ystyried hanes rhai ohonynt a'u teuluoedd.

Ar un ystyr rhestrau di- liw a di-bwrpas yw'r achau teuluoedd sydd yn y Beibl (e.e.

'Roedd 'Nhad a Mam yn gyfarwydd a thrychinebau yn eu teuluoedd.

Mae'r cynllun yn cynnwys codi trigain o geginau lle gall teuluoedd grasu injira, y bara beunyddiol.

Roedd y diwylliant Cymraeg yno'n gyfan, ac wrth symud y teuluoedd oddi yno roedden nhw'n lladd y diwylliant Cymraeg.

Eisteddodd disgynyddion William Davies, Fforest Uchaf, teuluoedd Nant y Gro, Culheol, Y Tyddyn Melyn, Maesgwilym, Tŷ Mawr a Phwllygod a Thŷ'r Gors a'r Waungrin a gwrando ar gatalog o weithredoedd eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau.

Nid bod llawer iawn o'r teuluoedd a'n cymdogion yn medru fforddio prynu llawer o'r glo 'ma cyn hynny.

Mae'n wir fod brenin a brenhines newydd ar orsedd Lloegr, Sior y Pumed a'r Frenhines Mari, ac Amundsen o fewn ychydig dros fis i gyrraedd Pegwn y Deau; ond yr oedd Streic y Plocyn wedi gwneud bywyd yn anodd i'r glowyr a'u teuluoedd, y streic a geisiau sefydlu hawl y glowr i fynd a phlocynnau pren diangen adref o'r pyllau glo, y plocynnau pren a hwylusai'r dasg o gynnau tan yng ngrat y gegin.

Yn sicr, mi wn y bydd teuluoedd yn Uwchaled yn teimlo felly.

Er enghraifft, y dylid rhoi yr hawl i ffermwyr adeiladu tai ar eu tir ar gyfer ymddeol neu ar gyfer aelodau o'u teuluoedd.

Y tu mewn, roedd swyddogion llywodraeth a'u teuluoedd yn symud i'w seddi, gyda'r math o siffrwd parchus a gewch chi mewn digwyddiadau ffurfiol o'r fath.

Ei gwaith hi bellach oedd cysuro teuluoedd y rhai a gafodd eu lladd gan filwyr y sgwadiau marwolaeth.

"teuluoedd y gwledydd" yn Esec.

Rhaid cofio mai mab i chwarelwr ydoedd, wedi ei fagu ymysg teuluoedd chwarelwyr ac yn gwybod o brofiad am erwinder y llafurio'n y graig ac am gyndynrwydd yr ymddrech ar yr aelwyd i fyw gyda thipyn o urddas a hunan-barch.

Un o'r rhesymau dros y cwlwm clos yma rhwng teuluoedd oedd mai crwydrol a bugeiliol oedd eu bywyd.

Bydd teuluoedd eraill a gollodd anwyliaid yn y Rhyfel yn gallu eu huniaethu eu hunain â hiraeth teulu Penyfed o golli eu mab hwythau.

Gyda'r gweithiwr cyffredin yr oedd cydymdeimlad Ieuan Gwynedd ('Nid ydym ond asgwrn o'ch asgwrn, a chnawd o'ch cnawd.' ) a chasâi'r meistri haearn - teuluoedd Harford, Bailey a Homfray - â chas cyflawn.

Ar ochr ddeau'r buarth yr oedd dau dŷ bach gefn wrth gefn ar gyfer rheidiau ysgarthol y teuluoedd.

Darllen amdano yn y wasg oedd yr wybodaeth gyntaf a gafodd teuluoedd y Cwm am benderfyniad Dinas Lerpwl i foddi eu cartrefi a'u capel er mwyn creu cronfa enfawr o ddŵr i ddiwallu galw diwydiant Lerpwl, glannau Merswy a rhannau o Gaer am fwy o ddŵr.

Mae'n dechrau fel cyfres o sgetsiau neu atgofion yr Hen Deiliwr, sef Robin; yna fe ddatblyga'n gyfres o wrthgyferbyniadau rhwng teuluoedd y gwahanol dyddynnod, gan newid holl naws yr adroddiad.

Bu rhai pobl yng Nghymru'n gwneud ffortiwn allan o werthu tai Cymru fel tai haf gan orfodi teuluoedd ifanc i symud allan o'u cymunedau.

Trodd amryw yn chwerw, a bu'r orfodaeth a osodwyd arnynt i fyw cyhyd ar wahân i'w teuluoedd yn faich gorthrymus rhy drwm i'w gario.

Agorodd rhagor o ddrysau gerllaw ac ymunodd teuluoedd eraill gyda nhw i gerdded yn rhibidrês ddistaw tua phrysurdeb y coridor mawr.