Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teuluol

teuluol

Yn wir, y tu allan i'r cylch teuluol roedd iddi enw o fod yn ferch ddelfrydol, bob amser yn gwenu ac yn barod i sgwrsio â phawb; ond amheuai Mali fod ynddi fwy nag ychydig o elfen yr angel pen-ffordd.

Fe aethon nhw ati i ddinistrio pob agwedd o'r ugeinfed ganrif yn enw'r chwyldro, gan gynnwys cael gwared ar grefydd, arian a chysylltiadau teuluol.

Y gyntaf oedd Dewisol Ganiadau yr Oes Hon ym 1759 ond yn ôl Mr Lake nid oes llawer o wybodaeth ynglyn â hon ond y mae mwy o wybodaeth am ei ail gyfrol, Diddanwch Teuluol, a gyhoeddwyd ym 1763.

O hynny ymlaen, llywiwyd ei ddyfodol gan ei amgylchiadau teuluol, i raddau helaeth, a pharodd yr amgylchiadau hynny i'r alwad o King's Cross, pan ddaeth, fod yn un anodd penderfynu yn ei chylch.

Hyd yn oed ar ddiwedd ei oes, ac yntau erbyn hynny yn byw ym Mhenarth, ac yn briod a'i drydedd wraig, Mary Davies, merch un o'i aelodau yn King's Cross, Saesneg oedd iaith y defosiwn teuluol a doi'r darlleniadau fel arfer o gyfieithiad Moffatt.

Un dechneg o'r fath yw BLUP; gall hwn gymharu ansawdd gan ystyried unrhyw ffactorau eraill sy'n berthnasol, megis lle magwyd yr anifail, ei hanes teuluol, ffactorau megis rhyw neu ddul magu yr anifail.

Fy mhroblem fwyaf oedd bod fy nghysylltiadau teuluol i gyd yn sir Gar a Morgannwg.

Caem fynd adref ar ôl i ni ddweud ein hadnodau ond weithiau, am resymau teuluol, byddem yn gorfod aros yno i'r diwedd.

Annisgwyl hefyd yw'r ffaith y gall catalogau sioeau lleol hefyd fod o ddefnydd i'r sawl sy'n gwneud ymchwil i hanes teuluol gan ddangos yn glir ddiddordebau eu cyndeidiau ym maes amaethyddiaeth.

Lleihau y mae gallu dynion i lunio eu hamgylchedd teuluol a lleol, heb sôn am yr amgylchedd cenedlaethol.

Er gwaethaf yr atgasedd o'u cwmpas, rhaid oedd derbyn realiti a cheisio byw fywyd teuluol hapus a llawn.

Ar ôl bwyta a thipyn o fân siarad teuluol, arweiniodd Gruff at bwrpas ei ymweliad.

Teimlid bod y cyfeiriadau cyson at yr 'hynaf penteulu' a'r 'hylwydd iawn gynheiliad' ynghyd â'r 'ymherawdr' a'r 'emprwr', y sofran a wyliai fuddiannau ei ddeiliaid, yn elfennau teuluol yn eu hystyr ehangaf ac yn cyfannu'r gymdeithas ac aelodau o'r 'cenhedlog waedogaeth' ynghlwm wrth uned sylfaenol y teulu cenhedlig na allai ffynnu mewn cyflwr o anarchaeth neu ddiffyg trefn.

Mae pynciau teuluol yn amlwg iawn, pethau fel geni a marw, profiadau crefyddol personol, y bygwth niwclear, - a'r cwbwl wedi eu lleoli'n gadarn yng nghynefin yr awdur ei hun.

O'r undod teuluol y datblygasai rhwymiadau priodasol i glynu teuluoedd a chynnal trefn a sefydlogrwydd.

Lle bynnag y gesyd fy hanes teuluol dwi'n gobeithio fod rhyw gymaint o egwyddor a gweithredu uniongyrchol fy nghyndeidiau wedi gwaddodi yn fy ngwythiennau i.

Dangosodd Mr Steffan Griffith mewn pennod ddiddorol o'i eiddo'n ddiweddar fod gan deulu Waldo Williams, o ochr ei dad gysylltiadau agos â'r ardaloedd rhwng Taf a Chleddau.' Ceisiaf innau ddangos yn yr ychydig nodiadau hyn fod gan y bardd gysylltiadau teuluol â'r Wythi%en Fawr ym Mrynaman yn ogystal.

Gwybodaeth Personol(c.v.), Gwybodaeth Teuluol, Gwybodaeth Lleol, Hwyl, 2 Cwis, Hel Achau ar Camera Hudol Digidol.

Newyddion Teuluol Hyfryd oedd clywed newyddion da am Rhian a Rhidian Lewis, merch a mab Mr a Mrs Les Lewis, St Mary's Cresc, Garth.

Yma y cai Elisabeth gyfle i hel atgofion a breuddwydio ac i fwynhau ychydig o ryddid oddi wrth y dyletswyddau teuluol oedd wedi dod yn rhan o'i bywyd ers claddu ei thad, yr yswain Richard Games.

Mae hyn yn arwain at yr ail fesur a gynigiwyd gan Gomisiwn y Gyfraith sef eu hadroddiad, 'Trais yn y Cartref a Meddiant y Cartref Teuluol, adolygiad o'r gwahanol ddeddfwriaeth bresennol sy'n cynnig meddyginiaethau sifil yn erbyn trais yn y cartref.

Ffurfiwyd y Gymdeithas yn 1981 yn uniad o'r Cymdeithasau Hanes Teuluol a oedd yn bodoli yng Nghymru.

Oherwydd y cysylltiadau teuluol â'r Tabernacl, teimlwyd y golled yno i'r byw.

O droi at hunangofiant Kate Roberts, Y Lon Wen, cawn ddigon o dystiolaeth fod hyn yn seiliedig ar gefndir teuluol yr awdures ei hun.

Yr oedd ei dad yn gyfyrder i William Salesbury, ac yr oedd cysylltiadau teuluol rhwng Edmwnd Prys a'r beirdd Tudur Aled a Siôn Tudur.

Y Pab yn rhybuddio y gallai teledu fygwth bywyd teuluol.

Maen rhaid ei fod yn sylweddoli mai'r un peth sydd debycaf o adfer ei ffawd wleidyddol yw lluniau teuluol o'r arweinydd Ceidwadol yn gwenun garuaidd wrth i Fabi Hague gymryd ei gamau cyntaf.

Gel y rhoddid pwyslais arwyddocaol ar gysylltiadau teuluol tebyg fu ymateb y beirdd i gyd-briodas rhwng y cyfryw uchelwyr a'r dolennau cyswllt a ffurfid ar dir cymdeithasol.

Yr oedd rhesymau 'teuluol' dros roi imi'r enw 'William' a digonedd o reswm dros 'Thomas'.

Cafwyd diwrnod hyfryd dros ben yn sgwrsio, cofio hen storiau teuluol, a throedio eto ar hyd hen lwybrau Camer Fawr a oedd mor agos at ei galon.

Arwyddocâd y ddwy dybiaeth gyntaf ydyw mai model dau sector yn unig a geir yn Ffigur I, sef sectorau unedau teuluol a chwmni%au busnes; a bod y galw cyfanredol, felly, yn cynnwys dwy gydran yn unig, sef y galw am nwyddau traul ar ran unedau teuluol (Treuliant), a'r galw am nwyddau cyfalaf ar ran cwmni%au (Buddsoddiant).

Unwaith, gwahoddodd bump o fenywod a oedd yn newyddiadurwyr ar gylchgronau yn America i dreulio peth amser gydag ef, ei wraig Soffia, a'u saith plentyn, i weld pa mor normal oedd eu bywyd teuluol.

Pe bai wedi cael mynd ymlaen i'r Ysgol Sir gallasai gael gyrfa academaidd, ond nid oedd amgylchiadau teuluol yn caniata/ u hynny, a daeth allan o'r ysgol yn dair ar ddeg mlwydd oed i weithio yn y gwaith tun.

Mae Bys a Bawd, sy'n fusnes teuluol a sefydlwyd ym 1955, yn arbenigo mewn llyfrau Cymraeg a Chymreig ac yn fusnes sy'n hollol ymrwymiedig i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.

Ond roedd gan William Owen Roberts lawer mwy yn ei ddrama na phroblemau teuluol ac roedd delweddau i'w gwled i'r gwyliwr oedd yn chwilio amdanynt.