Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tewi

tewi

Cyn tewi, hoffwn sôn am un Americanwr arall a oedd yn seren ddisglair yn ei ddydd ac sy'n bwnc trafod o hyd: John Fitzgerald Kennedy.

Mae pethau wedi tewi nawr.

Ond roedd hi'n ferch benderfynol, ac yn lle tewi gwnâi fwy o sŵn, a'i hymdrech i gael ein sylw yn fwy taer.

Ar un gwastad mae fel petai (a rhagofal yw'r 'petai' hwn) ef yn dweud fod yr hyn a fu rhyngddo ef a'r ferch - y chwerthin, y tristau a'r tewi, y distawrwydd, yr 'awel wynt', 'cnawd dy law' - fod hyn i gyd yn parhau i fod yn y man lle buont ar ryw fis Medi flynyddoedd lawer yn ol.

Fel disgrifiad o falchder ymffrostgar Cymry'r unfed ganrif ar bymtheg yn eu hanes a'u tras, prin y gellir gwella ar eiriau'r Esgob Richard Davies: 'Ni wna vi son am vrddas, parch, ac anrhydedd bydol yr hen Brytaniait: tewi a wnaf am y gwrolaeth, dewrder, buddugolaythay, ac anturiaythae y Cymru gynt, mi a ollynga heibio y amryw gylfyddyday hwynt, synwyr, dysc, doythineb, ar athrylith ragorawl.

Ac yno'r ydwyt tithau - a myfi, Am byth yn chwerthin, tewi, a thristau, Ac yno mae'r clogwyni, a'r niwl yn niwl, A Medi'n Fedi o hyd, ac un ac un yn ddau.