Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teyrnasiad

teyrnasiad

Yn ystod teyrnasiad ei dad y darganfuwyd olew yno, ac yn naturiol golygodd hynny newidiadau mawr yn y wlad.

Mae ceir wedi'u gwahardd o'r canol erbyn hyn gan adfer rhywfaint o awyrgylch canol oesol y dre farchnad - cyn teyrnasiad y brenin glo a dyfodiad diwydiannau alcam, olew a dur i waelod Cwm Nedd.

Tuag wyth o'r gloch y nos, fodd bynnag, symudodd yr awdurdodau'n benderfynol i ddymchwel teyrnasiad y picedwyr.

Medrai'r Gymuned ddyrchafu teyrnasiad y Comisiynydd.

Roedd cymylau duon dyledion ar y gorwel a chryn dipyn o'r sglein wedi mynd oddi ar y geiniog felen, safon arian N'Og ers teyrnasiad Braianllwyn Dew.

Yn bedwerydd, dyma'r cyfnod pryd y daeth Davies i gysylltiad agos â dynion a fyddai'n rymus iawn mewn byd ac eglwys yn ystod teyrnasiad Elisabeth.

'Roedd yr haf Edwardaidd yn tywynnu'n llachar o hyd, er i gyfnod teyrnasiad Edward y Seithfed (Iorwerth VII) ddod i ben yn swyddogol ym 1911 pan goronwyd Siôr y Pumed yn frenin, ond 'roedd ysbryd yr oes Edwardaidd o ffyniant a chynnydd yn parhau hyd at ddechrau'r Rhyfel Mawr.

Tua diwedd teyrnasiad Raul Alfonsin, bu tair ymgais gan y fyddin i gipio grym.