Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teyrngarwch

teyrngarwch

Nid y ffaith seml ei fod yn idgwydd byw mewn haid sy'n perio i'r arbenigwyr ddweud hyddy, ond yn hytrach y ddibyniaeth er gwmni a phrofiad ei gilydd, a'r teyrngarwch i'w cymuned.

Hwyrach na fyddai'r baneri'n dal i chwifio oni bai am y teyrngarwch personol i Fidel.

Ond o leiaf bydd hyn yn dangos teyrngarwch y cynghorwyr at y Gymraeg ac yn gosod sylfaen i'w ddefnyddio yn erbyn unrhyw fygythiad i newid cymeriad ardal gyda datblygiadau anghydnaws ac annerbyniol i'r gymuned leol.

Bwriadent integreiddio eu poblogaethau cymysg a chreu teyrngarwch cytu+n.

Honno yw'r aelwyd sy'n cyfrif; yr aelwyd sy'n sefyll yn ddigryn ar gonglfeini teyrngarwch a diolchgarwch.

Felly mae'n bosib ystyried bod anffyddlondeb a diffyg teyrngarwch yr anghredadun i'r un yr addawodd rannu ei fywyd ag ef/hi yn gyfryw bechod ag i fod yn sail diddymu'r briodas, yn gymaint ag y byddai godineb.

“Mae gan y chwaraewyr eu teyrngarwch i Gaerdydd a maen nhw am aros yma,” meddai Walkington.

Ffydd sy'n mynegi teyrngarwch gwaelodol i rywun neu ryw egwyddor, ein hymgysegriad i Dduw neu ryw eilun hen neu fodern.

Yr oedd teyrngarwch i'r duw cenedlaethol yn rhan o'r ymwybyddiaeth o genedligrwydd.

'Roedd rhai o'r aelodau hyn nad oedd ganddyn nhw ddim Cymraeg, ond na fuasen nhw byth wedi breuddwydio mynd i gapel Saesneg, gymaint oedd eu teyrngarwch i'r gymdeithas yn y Crwys.

Mewn cyfnodau llwm ac annodd mae teyrngarwch yn rhywbeth sy'n dod i'r amlwg fel clapiau o aur mewn rhidyll.

Mewn gwlad nad oes ganddi ei llywodraeth ei hun ac sydd wedi dod yn rhan o wead gwleidyddol gwlad arall, a honno'n genedl llawer mwy, bydd teyrngarwch pobl yn dechrau simsanu a'u hunaniaeth yn gwanhau.

Teyrngarwch i genedl yw elfen bwysicaf moesoldeb gwleidyddol.

Y teyrngarwch gwaelodol hwn yw "crefydd" ac y mae'n rhoi cyfeiriad nid yn unig i'r ffydd yr ydych yn ei fynegi ond pob gwedd arall hefyd ar eich gweithgarwch.

Yr oedd gwneud y fath hawl, wrth gwrs, yn mynd at wreiddyn a sylfaen y berthynas rhwng Cymru a Lloegr, yn tanseilio'r berthynas honno, ac yn gosod i fyny deyrngarwch newydd yn lle'r teyrngarwch i'r wladwriaeth Brydeinig y disgwylid i bob Cymro, fel pob Sais, ei roddi a'i arddel yn rhinwedd ei ddinasyddiaeth.

Ac fe gyhoeddwyd llythyr Vincent o fewn ychydig wythnosau i'r Eisteddfod yn y Royal Albert Hall lle llwyfannodd y Cymry eu teyrngarwch diarhebol gerbron Tywysog Cymru a'i deulu, lle cadeiriwyd Berw am awdl i Victoria a lifeiriai o edmygedd a diolch, lle bu Henry Richard AS, a 'savants' cyfarfodydd y Cymmrodorion, yn sicrhau pawb o fewn clyw na châi'r Gymraeg atal llanw'r Saesneg.

Y mae'r llafuryddion hynny yn ymwybodol o genedligrwydd Cymru ac o'i hawl ar eu teyrngarwch.

Yr oedd yna rai â'u teyrngarwch i'r mudiad mor ddwys a dwfn fel na fedrent hystyried y mater yn oeraidd, ac yn wyneb digwyddiad fel Tryweryn, yr oedd yna wanobaith llwyr, ac angen emosiynol clir am drobwynt dramatig.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.

Adroddodd y pentrefwyr y stori rhyfeddol am ddeallusrwydd, teyrngarwch a mentr ei gŵn.

Er lleied yw Plaid Cymru, ac er y gall hi gael mwy na'i rhan o glwyfau a siomedigaethau politicaidd, y mae'n anninistriadwy oblegid ei bod wedi ei hadeiladu ar graig teyrngarwch i'r genedl Gymreig.

Y mae'r glowr mewn llenyddiaeth yn enghraifft meddai, "o gymeriad a grebachwyd gan deyrngarwch." "O safbwynt llenyddiaeth y Gymraeg byddai mwy o 'anheyrngarwch' ...wedi gwneud mwy o les, wrth gwrs, na'r teyrngarwch rhigolus sydd yn ei hanfod yn wrthlenyddiaeth, ond yr oedd argyfwng y Gymraeg, gwaetha'r modd, wedi peri meddwl ers tro fod pob 'anheyrngarwch' o reidrwydd yn ddinistriol.

Mae rhai o'u harfau'r un fath, ac ychydig y mae eu gwisgoedd tlotaidd yn eu bradychu ynglŷn â'u teyrngarwch.

Yn ychwanegol at yr awch cynhenid i estyn eu tiroedd, eu hamcanion oedd meithrin eu teyrngarwch i'r goron a'r sefydliadau perthnasol iddi, a chadw cysylltiad agos â'r beau monde dros y ffin yn Lloegr.

Sylweddoli y teyrngarwch sydd yna i'r mudiad rhyfedd hwn da ni'n perthyn iddo fo.

Gellir awgrymu nifer o resymau am y teyrngarwch rhanbarthol hwn, sef twf gweinyddiaeth a datblygiad sefydliadau sirol, cynnydd cyfoedth y bonedd gwledig a'u tuedd gynyddol i briodi aeresau lleol, eu diddordeb mewn hanes, hynafiaeth a chyfraith, a thwf trefi sirol yn ganolfannau cymdeithasol, diwylliannol a gweinyddol.