Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thair

thair

Yn ystod ei thair wythnos ym Mhrydain bu Justine Merritt yn annerch cyfarfodydd cyhoeddus yn Aberystwyth a Bangor.

Brathodd ei gwefus a chrychodd ei thalcen mewn gofid ac nid oedd atgoffa'i hun bod ei mam wedi aros yn y Ty Mawr am fwy na thair wythnos cyn hyn, yn fawr o gysur.

Yr un patrwm a geid ym mhob man yng ngwneuthuriad y pedolau; lle i saith hoelen ymhob pedol, pedair yr ochr allan a thair o'r tu mewn.

Fe guron nhw Grimsby neithiwr, 4 - 1, a maen nhw nawr bedwar pwynt ar y blaen i Bolton gyda thair gêm ar ôl.

Un esboniad ar y wedd hon ar y nofel (ar wahan i ysgogiad cychwynnol amodau cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, a ofynnai am nofel yn ymdrin a thair cenhedlaeth) yw hoffter y Cymry o hal achau, yr ymhyfrydu mewn tylwyth mawr dyrys.

Hefo coed a llwyni mewn oed, gellir taenu llond dwrn o swlffad potas o gwmpas pob bonyn tua thair wythnos cyn y mwls.

Mae Robbie Savage yn gobeithio chwarae ei gêm gynta i Leicester City ers iddo gael llaw-driniaeth i'w benglîn lai na thair wythnos yn ôl.

Cafwyd gwâl ym Mhencaenewydd ger Pwllheli dro'n ôl gyda thair lefren ynddi - dwy frowngoch ac un glaerwen.

Ychwanega ei fod wedi dwyn croes ein Harglwydd Iesu Grist ar ei ysgwyddau (sef llun neu batrwm ar ei darian yn ôl pob tebyg) am dri diwrnod a thair noson, a dyma'r enghraifft gynharaf o'r syniad am Arthur yn amddiffynnydd i'r Ffydd Gristnogol.

Tref fechan, brysur, ar lan y môr oedd Tywyn, a ninnau'n symud oddi yno i dyddyn yn y wlad tua thair milltir o'r dref.

Penderfynodd mai hwnnw fyddai'r diwrnod olaf y byddai hi a'i thair geneth fach yn troedio'r ddaear.

Ysgrifennai Mam ddwy a thair gwaith yr wythnos gan yrru parseli o gacennau a darnau o gig moch cartre iddo.

Gorffennodd Tinning 15 ergyd yn well nar safon, un yn well na David Howell o Loegr a thair yn well nag Ian Woosnam, ddechreuodd y rownd olaf ar y blaen o un ergyd.

Y tal a gawsem oedd chwe cheiniog am fynd rownd y cwrs naw twll a thair ceiniog, gan amlaf o gildwrn ar ben hynny.

Hon hefyd oedd y flwyddyn y daeth BBC Cymru yn wirioneddol unigryw fel cynhyrchydd dramâu, gan gynhyrchu dim llai na thair cyfres ddrama ddyddiol - Pobol y Cwm ar gyfer S4C, Eileen ar gyfer BBC Radio Cymru a Station Road ar gyfer BBC Radio Wales.

Daw'r adran i ben yn hollol ffurfiol â brawddeg glo draddodiadol, a blwyddyn a dwy a thair y bu ef yn hynny onid oedd ei glod wedi ehedeg dros wyneb y deyrnas, ac y mae'r awdur wedi llwyddo i adrodd anturiaethau sy'n dechrau heb gyswllt â'i gilydd ond sy'n cad eu tynnu o wahanol gyfeiriadau yn un hanes cyflawn a gorffenedig.

Pan tua thair neu bedair milldir o Memphis, a'r ffordd yn rhedeg drwy ganol meysydd llydain a gwastad o bob tu i ni, gofynnai Mr Eleazar Jones i deithiwr a ddigwyddai eistedd ar ei gyfer, gan gyfeirio at faes ar lechwedd bychan gyferbyn â'r ffenestr, â rhyw fath o growcwellt hir yn tyfu arno, nad oedd Mr Jones yn hollol sicr beth ydoedd, - `Cnwd,' ebe fe, `o ba beth yw hwn ar y maes yna?' Ebe'r dyn, gan godi ei ysgywddau ac ysgwyd ei ben gydag ochenaid, `that is a war crop!' - Cnwd rhyfel ydyw hwnyna!

Yn y fan honno ymunodd gwraig y Capten â'r llong gyda thair o enethod - un yn bump oed, un arall yn dair a'r ieuengaf yn flwydd.

Terfysg ym Maerdy, Y Rhondda, a 33 o ddynion a thair merch yn mynd i garchar.

Rhaid cyffroi ynddynt, hyd yn oed y Cymry yng Ngwent a Morgannwg a gollodd eu Cymraeg ers dwy a thair a phedair cenhedlaeth, yr ymwybod o'u gwahanrwydd, a defnyddio gair J R Jones, fel Cymry.