Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tharddiad

tharddiad

Rhaid croesi Bwlch Maloggia (Maloja) dros ugain milltir i ffwrdd ym mhen uchaf y dyffryn, i gyrraedd Chiavenna a Milan ond nid yw'r ffordd fawr yn gorfod ymdrechu yr ochr yma i'r bwlch hwnnw, dim ond dilyn cwrs Afon En (yr Inn yn Awstria) ar ei thaith dros y dolydd eang ac, yn agosach i'w tharddiad, trwy gyfres o lynnau mawr heb eu hafal.

Ei gred, fel amryw o'i gyfoeswyr, oedd fod y Gymraeg yn tarddu o'r Hebraeg ac y gellir olrhain ei tharddiad yn ôl i'r cymysgu ieithoedd a ddigwyddodd adeg helynt Twr Babel.

Prifio'n wr bonheddig a wnaeth Elias, yn enwedig ar ôl priodi Lady Bulkeley (nad oedd fwy o ledi o ran ei tharddiad na finnau!).

Treulia lawer o amser yn trafod defnyddio cregin yn wrtaith a phair hyn iddo son am natur a tharddiad ffosilau cregin, un o bynciau mawr daearegwyr y dydd.

'Rwy'n pwysleisio cyfoesedd ac ehangder diddordebau a chysylltiadau Llwyd er mwyn dangos mai ynghlwm wrth y ddyneiddiaeth eang honno y coleddai ei syniadau am hanes a tharddiad cenedl y Cymry.

Yma ceir gwybodaeth ynglŷn â tharddiad y Celtiaid a'u ffordd o fyw, ac am effaith y goresgyniad Rhufeinig ar Ynys Môn.

Cynhwysodd yn ei lyfr ddetholiad o'r ohebiaeth a fu rhyngddo a Lhwyd a'i holai'n fynych ynghylch ystyr a tharddiad enwau priod Cymraeg, ond rhaid cyfaddef, er bod Rowlands yn hyddysg yn namcaniaethau ieithyddol ei ddydd a'i fod yn rhannu holl ddiddordebau eang Lhwyd na ddeallasai ef arwyddocad dull gwyddonol ei gyfaill o weithio.