Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

theithio

theithio

Yn raddol, gwasgarodd pawb a gwthiodd Dilwyn, Rhian ac Ifan eu beiciau'n araf i ben y rhiw cyn dringo arnynt a theithio'n flinedig hyd bentref y Bont, heb ddweud gair.

Cychwynnais o'r ty yn Nhalyllyn wrth droed Cadair Idris yn fy Awstin Mini ben bore a theithio dros Ddylife a'r Epynt dros Fannau Brycheiniog a thrwy'r Hirwaun a Mynydd Rhigos.

Nid hon yw'r ffordd orau, ond gan fod Naferyn a'i filwyr yn crwydro'r wlad mae'n well i ti beidio â theithio ar hyd y briffordd.

Gall hyn arwain at bwyllgora a theithio ac areithio ac ati: gwaith anrhydeddus, ond nid gwaith llenor; yn Ull peth oblegid ei fod yn mynd â'i amser, y peth mwyaf amhrisiadwy sydd ganddo.

Heb ddealltwriaeth clir rhwng y ddau ni ellir trafod na pholisi rhaglen na chynllun marchnata a theithio.

Y mae'r bobl yn hoffi'r ardal gymaint fel bod y rhai ffodus yn byw yn y Parc a theithio i'w gwaith yn Sheffield.

Roedd i'r gyfundrefn Sofietaidd rhyw lun o sadrwydd ac roedd yr hanfodion ar gael i hwyluso hedfan a theithio ledled yr ymerodraeth.