Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thraddodiadau

thraddodiadau

Faint yw ein gofal am harddwch ein tirwedd ac yn dilyn rhesymeg Rio, y ddiwyllianau a thraddodiadau a gysylltir a'r un tiroedd?

Geilw'r Pwyllgor am gadw addysg yn wasanaeth barhaus i blant, pobl ifanc ac oedolion, sy'n atebol i'r gymuned gyfan, sy'n cydnabod ei hanes a'i thraddodiadau ac sy'n fyw i'w dymuniadau a'i hanghenion ar gyfer y dyfodol.

Dafydd Jones, Dremddu Fach oedd awdur y traethawd buddugol ar lên gwerin, hen arferion a thraddodiadau pobol y plwy yn wythdegau'r ddeunawfed ganrif.

Ysgrifennodd lawer o gofion a thraddodiadau y wlad, y rhai fydd ddiddorol ac o wasanaeth mawr i ryw hanesydd.

Iddo ef, ni allai unrhyw lenyddiaeth fodoli yn annibynnlo ar lenyddiaethau eraill oni bai ei bod yn perthyn i genedl neilltuol a'i hiaith a'i thraddodiadau ei hun.

'Roedd Cymru yn prysur golli ei thir a'i thraddodiadau.

Ni allent aeddfedu ond mewn fframwaith cymdeithas â'i gwerthoedd a'i thraddodiadau ei hun.

a '...' Keats, ond cynhwysa hefyd y dyfyniad hwn gan Samuel Roberts: 'Yr wyf yn credu nad yw canonau na chredoau na thraddodiadau dynol yn meddu dim awdurdod ar ymarferiad Cristnogion.' Er nad yw'r geiriau ynddynt eu hunain yn ychwanegu dim at ddadl Peate mai ym mhrofiad yr unigolyn y mae chwilio am Dduw, ac er y gellid eu hystyried yn fawr mwy nag allweddeiriau hwylus i gael gwrandawiad yn uchel lys Annibynia, camgymeriad fyddai eu hanwybyddu.

Cyfnod oedd hwn pan wnaed llawer o feddylwaith caled ynglŷn â Chymru a'i thraddodiadau, ei gwreiddiau fel cenedl a'i lle yn hanes y byd.

Ymroddai mintai fach y Blaid Genedlaethol i amddiffyn cymdeithas a thraddodiadau Cymru, a goleuwyd y ffurfafen dros dro gan wroldeb y Tân yn Llyn.

'Rwyf wedi ceisio fy nhrwytho fy hun yn hanes a thraddodiadau Cymru, ond 'rwy'n bur ymwybodol o'r modd y mae'r byd cyfoes, cosmopolitaidd wedi chwalu'r traddodiadau yna.

Awdl am yr elfennau materol ym mywyd Cymru a oedd yn bygwth ei thraddodiadau diwylliannol ac ysbrydol.

Os ydyw'n Gymro go iawn ac yn un sy'n ymglywed â naws a thraddodiadau ei wlad a'i genedl ei hun, fe ddaw'r awydd i ddysgu'r hen iaith er mwyn ailgydio yn ei enedigaeth-fraint.

Ac wrth ymwneud â hwnnw y mae hefyd yn etifeddu dylanwadau a thraddodiadau ei hil, ei lwyth, ei genedl a'i deulu.