Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

thrais

thrais

Wrth gwrs, mae yna feddwi a thrais ar y stryd gyda'r nos a sŵn miwsig rêf yn atseinio o glybiau nos yn oriau mân y bore - yn enwedig adeg gemau rygbi cartre' - ond, yn ôl pobol leol, mae pethau yn waeth yn Abertawe a Llanelli.

Nid oedd arno ofn troi ei nodiadau golygyddol yn brotest gyson yn erbyn rhyfel a thrais, crogi a charchar, yn enwedig pan garcherid bechgyn a merched oherwydd eu syniadau gonest.

Y mae'r anobaith a'r dicter a ddaw yn sgil y dirywiad cymdeithasol hwn yn mynegi ei hun yn aml trwy gyfrwng fandaliaeth, alcoholiaeth, cyffuriau a thrais etc.

A chan fy mod yn ysgrifennu'r geiriau hyn pan yw'r tanciau'n rhuthro ar draws Croatia a bomiau'n disgyn ar gartrefi, ysbytyau ac eglwysi yn y dalaith honno, ni allaf lai na theimlo pa mor argyfyngus yw'r galw arnom yn Ewrob i gefnu ar ryfel a thrais fel cyfryngau i ddatrys ein problemau.

Ar un llaw, fe fydden nhw'n deyrngedau i arwriaeth cenhedloedd bychain yn wyneb tlodi, gormes a thrais; ar y llall, fe allen nhw greu darlun comig o griw di-brofiad ond gobeithiol yn ceisio rhedeg gwlad.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Ni chryfhasoch y rhai llesg, ac ni feddyginiaethasoch y glaf, ni rwymasoch ddrylliedig chwaith, a'r gyfeiliornus ni ddygasoch adref, a'r golledig ni cheisiasoch; eithr llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreulondeb A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail: a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes, pan wasgarwyd hwynt.

Polisi tra gwahanol oedd ar dafod arweinydd glowyr Aberdâr, Charles Stanton: rhaid cynnull 'brigâd ymladdgar o lowyr' i herio trais yr heddlu a thrais y dosbarth llywodraethol, taranai.