Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

threblu

threblu

Roedd rhai o'i phobl, er yn broffesiynol a deallus, yn esgeulus ar y gorau, ond gyda'r Nadolig a'i barti%on a'i gymdeithasu di-ben-draw i ddyblu a threblu'r gwaith, fe gymerai sawl wythnos iddi ddod i drefn eto.

Ond fe gododd Richard Owen Waun ar ei draed, ac fe ddywedodd, 'Canwch "Gwaed y Groes sy'n codi i fyny%.' Ac fe'i canwyd â rhyw arddeliad rhyfedd, a dyblu a threblu 'Gad i'm deimlo/ Awel o Galfaria fryn'.

Ar ôl i'r brawd Richard Owen godi i fyny fe ganwyd 'Dyma gariad fel y moroedd', ac wedi dyblu a threblu ar hwnnw fe daeth John Roberts Blaenau i weddio, ac yr oedd y brawd hwnnw y noson honno fel y mae hyd heddiw, yn hynod o afaelgar, ac yr oedd yn gweddi%o â'i lais uchel bod sôn am ddiwygiad yn y Sowth, ac fe ddywedodd lawer gwaith: